Cost of Living Support Icon

 

Canolfannau hamdden Bro Morgannwg yn paratoi at ailagor

Mae canolfannau hamdden Bro Morgannwg yn paratoi at ailagor wedi i Lywodraeth Cymru lacio cyfyngiadau’r coronafeirws yn ddiweddar.

 

  • Dydd Iau, 29 Mis Ebrill 2021

    Bro Morgannwg



Bydd canolfannau Hamdden y Barri, Colcot, Y Bont-faen, Llanilltud Fawr a Phenarth i gyd yn agor ar gyfer busnes eto o ddydd Llun (3 Mai) ar ôl i'r Prif Weinidog gyhoeddi y gellid dod â’r garreg filltir hon ymlaen saith niwrnod.


Bydd cyfleusterau campfa, dosbarthiadau ymarfer corff i grwpiau, lonydd nofio a chlybiau nofio ar waith. Gwersi nofio fydd yr unig weithgaredd na fydd ar gael ar unwaith. Byddan nhw’n ailddechrau wythnos yn ddiweddarach.


Er mwyn cadw pobl yn ddiogel, caiff gwaith glanhau ychwanegol ei wneud, mae systemau un ffordd wedi'u cyflwyno, a bydd angen i bob cwsmer wisgo masg mewn rhai mannau cyhoeddus.    

 

penarth leisure centre

Mae Canolfan Hamdden Holm View yn parhau i gael ei defnyddio fel canolfan frechu torfol felly ni fydd yn ailagor.

Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Mae hyn yn newyddion cyffrous iawn gan fod ymarfer corff yn rhan mor bwysig o ofalu amdanon ni ein hunain. Mae'n wych y bydd pobl yn gallu dychwelyd i wneud yr hyn y maent yn ei garu, neu ymgymryd â gweithgaredd newydd, yn gynt na'r disgwyl.  


"Mae hefyd yn galonogol iawn gweld ymdrechion cyfunol pawb i ddilyn y rheolau'n talu ar ei ganfed a’r cyfyngiadau’n cael eu llacio ynghynt. 


"Gyda chanolfannau hamdden a chyfleusterau cymunedol eraill yn agor yn gynt na'r disgwyl a mwy o bobl yn cael cwrdd yn yr awyr agored mae pethau'n teimlo'n gadarnhaol iawn ar hyn o bryd."  

Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n partner Legacy Leisure sy'n gweithredu canolfannau hamdden yn y Fro i sicrhau bod popeth yn ei le er mwyn i bob gweithgaredd ailddechrau'n ddiogel. 

Gellir archebu sesiynau yn y gampfa, yn y pwll ac ar gyfer gweithgareddau eraill drwy fynd i leisurecentre.com a dewis eich cyfleuster lleol.


Ychwanegodd y Cynghorydd McCaffer: "Rwy'n gwybod y bydd ein trigolion yr un mor ddiwyd wrth ddilyn y rheolau ag y maen nhw wedi bod drwy gydol y pandemig. Drwy ofalu am ein gilydd gallwn ni i gyd chwarae ein rhan i gadw'r Fro'n ddiogel."