Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn cwblhau datblygiad llety dros dro i'r digartref 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi datgelu cynlluniau i adeiladu 11 uned llety dros dro fel rhan o gynllun gwerth £20 miliwn gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â digartrefedd.

 

  • Dydd Iau, 05 Mis Awst 2021

    Bro Morgannwg

    Barri



Ar ffurf byngalos coeth eu dyluniad, credir mai'r datblygiad ger y Safle Amwynder Dinesig ar Court Road yn y Barri, yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru.


Fe'i crëwyd er mwyn helpu i fynd i'r afael â chynnydd mewn digartrefedd a achoswyd gan bandemig Covid-19 a lleihau'r ddibyniaeth ar lety brys.

 

courtroad1

 Mae tenantiaid eisoes wedi dechrau symud i mewn i’r eiddo, sy’n defnyddio paneli wedi'u hinswleiddio o ansawdd uchel i greu unedau hunangynhwysol sy'n cynnwys lolfa/stafell fwyta/cegin, ystafell wely sengl neu ddwbl ar wahân ac ystafell gawod en-suite.


Maent yn ecogyfeillgar, yn cynnwys ardaloedd bach o ddecin pren er mwyn helpu i greu amgylchedd cymunedol yn ogystal â darn o ofod cyhoeddus, maes parcio a storfa feics.

Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau Adeiladu: "Ers i bandemig coronafeirws daro, rydym wedi helpu cannoedd o bobl y mae digartrefedd yn effeithio arnynt drwy ddarparu unedau o lety brys ychwanegol mewn gwestyau a lleoliadau Gwely a Brecwast er mwyn sicrhau nad oes neb heb gartref na lle diogel i aros. Mae hynny'n ychwanegol at y 120 o unedau llety dros dro sydd eisoes yn bod a ddarperir gan y Cyngor.


"Gyda gafael y pandemig yn llacio, mae'n bwysig nad yw'r gefnogaeth sydd ar gael i'r rhai sy'n cael eu hunain heb gartref hefyd yn gostwng. 


"Mae'r byngalos hyn yn dangos ymrwymiad y Cyngor i ddod o hyd i atebion hirdymor i ddigartrefedd.  Byddant yn darparu lleoedd diogel, modern a chyfforddus i bobl aros am gyfnod estynedig ac mae prosiectau tebyg eraill ar y gweill hefyd."