Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn cymryd camau gorfodi dros waith Biomas y Barri

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cytuno y gellir cymryd camau gorfodi am bryderon cynllunio sy'n ymwneud â'r Gwaith Nwyeiddio Biomas yn y Barri.

 

  • Dydd Iau, 02 Mis Medi 2021

    Bro Morgannwg

    Barri



Anfonir rhybudd cyfreithiol a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r ffatri roi'r gorau i weithredu, a thynnu'r holl adeiladau o'r tir.


Penderfynwyd ar hyn mewn cyfarfod o Bwyllgor Cynllunio'r Awdurdod ar ôl i berchnogion y gwaith fethu â datrys anghysondebau rhwng y dyluniad cymeradwy a'r hyn a adeiladwyd.


Ni ddangoswyd nodweddion gan gynnwys tanciau dŵr, peiriannau, trawsgludwr allanol ac is-orsaf ar gynlluniau a dderbyniwyd.


Gyda’i gilydd, mae'r Cyngor o'r farn bod hyn yn torri caniatâd cynllunio, ac nad yw cais cynhwysfawr gan gynnwys yr uchod wedi'i gyflwyno.


Os bydd Biomas y Barri yn apelio yn erbyn y penderfyniad hwn, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ymdrin â'r mater. 

Dwedodd y Cynghorydd Edward Williams, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cyfreithiol, Rheoliadol a Chynllunio: "Rwy'n gwbl ymwybodol o gryfder y teimlad ynglŷn â'r gwaith hwn yn lleol a natur pryderon trigolion.


"Gwrthodwyd y cais cynllunio gwreiddiol i godi ffatri yn Nociau'r Barri gan y Cyngor yn 2010, ond cafodd y penderfyniad hwnnw ei wyrdroi ar apêl gan Arolygydd a benodwyd gan Lywodraeth Cymru. 


"Fodd bynnag, nid yw'r datblygiad wedi symud yn ei flaen yn y modd y cytunwyd arno ac, yn anffodus, er gwaethaf deialog hirfaith, mae’n ymddangos mai dyma'r unig ffordd o ddatrys rhai problemau penodol."