Cost of Living Support Icon

 

Gosod byrddau gwybodaeth newydd ar safle Rhufeinig y Cnap

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gosod byrddau gwybodaeth newydd yn ddiweddar ar lwyfan gwylio safle Rhufeinig y Cnap yn y Barri.

 

  • Dydd Gwener, 27 Mis Awst 2021

    Bro Morgannwg



Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant;


"Roedd angen uwchraddio'r arwyddion blaenorol ers peth amser gan eu bod wedi mynd yn annarllenadwy yn bennaf. Mae'r Cnap yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ac mae'r heneb yn ddarn allweddol o hanes lleol.


"Bydd ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd nawr yn gallu dysgu mwy am y safle a'i hanes cyfoethog."

Knap information boards background
Knap information boards behind
Knap information boards head on