Cost of Living Support Icon

 

Cyflwyno cais cynllunio ar gyfer Cynllun Lliniaru Llifogydd Llan-faes

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyflwyno cais cynllunio ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd yn Llan-faes.

 

  • Dydd Llun, 06 Mis Medi 2021

    Bro Morgannwg



Bydd proses dendro yn dechrau cyn bo hir i benodi contractwr addas, gyda'r nod o gwblhau'r prosiect erbyn yr haf.


Mae nifer o lifogydd wedi effeithio ar Llan-faes ers y 1990au ac mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod y probl

 

Llanmaes

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae'r cynllun £2 filiwn hwn yn ceisio lleihau'r perygl o lifogydd pellach ac mae'n cynnwys:

 

• creu rhwystrau llifogydd a ffosydd i weithredu fel mannau storio dŵr.

• Ailbroffilio ffyrdd i ailgyfeirio dŵr ffo a'i gadw i ffwrdd o eiddo.

• Arwyneb newydd ar y ffyrdd ac ailadeiladu palmentydd.

• Tirlunio strategol i gynnig rhagor o amddiffynfeydd dŵr.

Dwedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cyfreithiol, Cynllunio a Rheoliadol: "Rwyf i a'm cyd-aelodau ward, y Cynghorwyr John, Hanks a Norman, yn ymwybodol iawn o'r problemau hirsefydlog y mae trigolion Llan-faes wedi'u cael gyda llifogydd.


"Mae mynd i'r afael â'r materion hyn wedi bod yn broses gymhleth sydd wedi cynnwys cynllunio gofalus, ond rwy'n gobeithio bod gennym bellach ddyluniad a all fynd ymhell i atal digwyddiadau fel y rhai a fu’n flaenorol rhag digwydd eto.


"Mae cais cynllunio wedi'i gyflwyno ar gyfer Cynllun Lliniaru Llifogydd Llan-faes. Byddwn hefyd yn penodi contractwr i wneud y gwaith cyn bo hir, a gobeithiwn y gellir ei gwblhau yn ystod y 12 mis nesaf."