Cost of Living Support Icon

 

Preswylydd o Sili yn cael dirwy am orfwydo adar

Mae preswylydd o Sili wedi cael dirwy o fwy na £3,500 ar ôl i orfwydo adar achosi llu o broblemau i'w chymdogion.

 

  • Dydd Iau, 19 Mis Awst 2021

    Bro Morgannwg



Aethpwyd ag Irene Webber i Lys Ynadon Caerdydd gan Bartneriaeth Bro Ddiogelach yn gynharach yn y mis ar ôl iddi dorri Hysbysiad Diogelu'r Gymuned cynharach am yr un drosedd.


Mae Partneriaeth Bro Ddiogelach yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Bro Morgannwg, Heddlu De Cymru, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a'r trydydd sector.

 

webberpic

Roedd y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, y corff sy'n ymdrin â materion iechyd yr amgylchedd yn ardaloedd Awdurdod Lleol Bro Morgannwg, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr, hefyd yn ymwneud â'r achos fel yr oedd tîm cyfreithiol Cyngor y Fro.


Cymerwyd camau ar ôl i Ms Webber o Minehead Avenue barhau i adael symiau mawr o fwyd adar y tu allan i'w thŷ, gan ddenu'r anifeiliaid.


Roedd y rhai a oedd yn byw gerllaw yn gorfod dioddef niwsans sŵn, y bygythiad o gael eu hanafu gan wylanod a llanast adar gormodol ar dai a gerddi.


Roedd yr arfer hefyd yn denu llygod mawr a phlâu eraill, gan achosi difrod i eiddo ar y stryd.

Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Rheoliadol a Chynllunio Cyngor Bro Morgannwg: "Arweiniodd cydweithrediad rhwng amrywiaeth o asiantaethau, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â Phartneriaeth Bro Ddiogelach a'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, at yr erlyniad hwn.


"Roedd yr unigolyn hwn yn achosi problemau parhaus i'r rhai sy'n byw o'i chwmpas ac er gwaethaf rhybuddion blaenorol, roedd hi’n parhau i weithredu yn yr un modd. 


"Rwy'n gobeithio y bydd yr enghraifft hon yn cyfleu neges na fyddwn yn goddef ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau ac ein bod yn barod i gymryd camau pendant i fynd i'r afael ag ef."

Er iddi gael Rhybudd Gwarchod y Gymuned (RhGG) ac yna Hysbysiad Gwarchod y Gymuned (HGG), parhaodd Ms Webber â'r ymddygiad hwn.


Bwriedir i HGG ddelio â phroblemau neu niwsans afresymol parhaus sy'n amharu ar ansawdd bywyd cymuned. 
Cyflwynwyd hysbysiad iddi hefyd o dan Adran 4 Deddf Atal Difrod gan Blâu 1949, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd i gadw ei gardd yn rhydd o lygod a llygod mawr.