Cost of Living Support Icon

 

Cyngor y Fro yn lansio rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer 2021/22

Mae Tîm Digwyddiadau Cyngor Bro Morgannwg yn falch o gyhoeddi rhaglen ddigwyddiadau ddiwygiedig yn dilyn symud Cymru i Lefel Rhybudd Sero.

 

  • Dydd Iau, 12 Mis Awst 2021

    Bro Morgannwg



Y cyntaf o’r digwyddiadau hyn fydd y gystadleuaeth codi cestyll tywod ym Mae Whitmore ar 23 Awst. Bydd hyd at 200 o dimau yn cael eu gwahodd i ddangos eu sgiliau adeiladu fel rhan o ddigwyddiad Gadael Dim Ôl ar Ôl. Caniateir adeiladu cestyll â thywod yn unig a chânt eu golchi i ffwrdd yn naturiol gan y llanw.


Mae’r rhaglen ddigwyddiadau hefyd yn cynnwys yr Ŵyl Flodau gyntaf erioed a gynhelir drwy gydol mis Awst yng nghanol pedair o drefi’r Fro. Drwy gydol yr Hydref, bydd teuluoedd yn gallu mwynhau’r Ŵyl Bwmpenni ym Marc Gwledig Porthceri a llwybrau ysbrydion Canol Tref a Phroject Guto Ffowc Gwyrdd ar Noson Tân Gwyllt.


Bydd y rhaglen yn parhau i’r Gaeaf a’r Gwanwyn gyda digwyddiad yn cynnwys Ceirw, Llwybr Corrach Canol y Dref a Swyddfa Bost Siôn Corn, gan ddod i ben gyda helfa drysor yr Wy Aur adeg Y Pasg. 


Mae’r tîm hefyd yn gweithio â phartneriaid i sefydlu rhaglen o ddigwyddiadau ym Mharc Canoloesol Cosmeston.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, y Cynghorydd Lis Burnett: “Eleni, mae ein rhaglen ddigwyddiadau wedi’i chynllunio i gynnal digwyddiadau difyr i’r teulu yn unol â rheoliadau Covid-19 Llywodraeth Cymru. Mae'n newid o ddigwyddiadau gyda thorfeydd mawr y blynyddoedd diwethaf, gyda'r nod o gefnogi busnesau sydd wedi dioddef ergyd drom gan Covid.  


“Wrth i Gymru symud i Lefel Rhybudd Sero, mae gennym gyfrifoldeb o hyd i gynnal digwyddiadau sy'n cydymffurfio â’r canllawiau hyn, ond mae'r rhaglen yr un mor hwyliog a difyr i deuluoedd sy'n byw yn y Fro ag y mae i’r rhai sy’n ymweld â hi. Allwn ni ddim disgwyl gweld canlyniadau ein cystadleuaeth adeiladu cestyll tywod yn ddiweddarach y mis hwn."

 

Ychwanegodd Swyddog Digwyddiadau Cyngor Bro Morgannwg, Sarah Jones, "Rydym wedi ein cyffroi'n fawr gan y rhaglen ddigwyddiadau eleni, ac rydym yn gobeithio y bydd ymwelwyr a thrigolion y Fro yn mwynhau'r amrywiaeth a gynigir gennym. Mae’r digwyddiadau’n ffordd wych o fwynhau eich amser gyda theulu a ffrindiau wrth ddod yn gyfarwydd â chyrchfannau gwych ledled y Fro."

Ewch i wefan Visit the Vale i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen a chael y newyddion diweddaraf wrth i ddigwyddiadau gael eu cadarnhau.

 

Visit the Vale