Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn llongyfarch disgyblion TGAU

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi llongyfarch disgyblion TGAU wedi iddyn nhw gael eu graddu wedi’u cadarnhau heddiw.

 

  • Dydd Gwener, 13 Mis Awst 2021

    Bro Morgannwg



Teithiodd disgyblion i ysgolion ar hyd a lled y Sir y bore yma, neu cawsant eu canlyniadau mewn e-bost. 

 

Penderfynwyd ar raddau a ragfynegwyd gan athrawon gan na ellid cynnal arholiadau oherwydd pandemig Covid-19. 

 

Bu'r Cynghorydd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, yn canmol y disgyblion am eu cyflawniadau yn dilyn 18 mis anodd.

"Hoffwn gydnabod cyflawniadau disgyblion TGAU ar draws y Fro a dderbyniodd eu canlyniadau heddiw," meddai. "Mae'r flwyddyn a hanner ddiwethaf wedi bod yn gyfnod profi i bawb, ond mae wedi bod yn arbennig o galed ar ddisgyblion sy'n gweithio tuag at gymwysterau.


"Maen nhw wedi gorfod ymdopi ag amgylchiadau eithriadol ac mewn llawer o achosion wedi goresgyn y gofid hwnnw i gyflawni graddau rhagorol. 


"Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i bawb a gasglodd eu canlyniadau heddiw ar gam nesaf eu taith."