Cost of Living Support Icon

 

Ffermwr o Fro Morgannwg yn cael ei erlyn am droseddau hylendid bwyd

Mae ffermwr o Fro Morgannwg wedi cael gorchymyn i dalu bron i £5,000 am droseddau hylendid bwyd yn dilyn erlyniad llwyddiannus.

 

  • Dydd Gwener, 06 Mis Awst 2021

    Bro Morgannwg



Roedd Martyn David o Forge Cottage yn rhedeg busnes o'r enw Picketston Meats o'i fferm yn y pentref ger Sain Tathan.


Yn dilyn ymchwiliad gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) ar ran Cyngor Bro Morgannwg, darganfuwyd nifer o achosion o dorri safonau, gan gynnwys cyw iâr wedi'i labelu’n gelwyddog fel cynnyrch ieir buarth. 

 

martyngeorge1

Mae’r GRhR yn cyflawni amrywiaeth o swyddogaethau ar gyfer cynghorau'r Fro, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr mewn meysydd fel iechyd yr amgylchedd, safonau masnach a thrwyddedu.


Yn ystod ymweliadau hylendid bwyd â'r fferm fach ym mis Chwefror a mis Mawrth y llynedd, canfuwyd bod dofednod y bwriedid eu lladd yn cael eu cadw mewn amodau budr iawn. 


Roedd yr ystafell brosesu bwyd a'r ystafell ladd a’u hoffer yn fudr ac yn llawn gwaed. 


Nid oedd bwyd yn cael ei ddiogelu rhag cael ei halogi, a doedd dim systemau priodol ar waith i stori na gwaredu cyrff a gwastraff anifeiliaid.  


Gan fod angen gweithredu’n ddi-oed, caeodd Mr David y busnes yn wirfoddol cyn gweithio gyda swyddogion GRhR i wella'r sefyllfa.


Fodd bynnag, yn ddiweddarach y flwyddyn honno, ym mis Hydref 2020, roedd safonau wedi disgyn eto, gydag arferion gwael yn digwydd eto.


Er bod gan Mr David System Rheoli Diogelwch Bwyd a threfn lanhau wedi'u dogfennu, doedden nhw ddim yn cael eu gweithredu. 


Pan ofynnwyd am wybodaeth am dracio bwyd, o ble yr oedd yn dod ac i bwy yr oedd yn cael ei ddarparu, doedd dim o’r wybodaeth honno ar gael. 

 

Rhwng mis Mai a mis Tachwedd y llynedd, cyflwynwyd cyw iâr fel petai’n dod o fferm Mr David, lle y dywedwyd iddo gael ei ladd a'i brosesu, pan nad oedd hyn yn wir.


Ym mis Hydref 2020, gwerthodd Mr David gyw iâr hefyd a oedd yn cynnwys label a oedd yn ei ddisgrifio'n gelwyddog fel cynnyrch ieir buarth. 


Mewn achos a ddygwyd gan GRhR, plediodd Mr David yn euog i ystod o droseddau o dan ddeddfwriaeth yn ymwneud ag arferion hylendid gwael a ffug ddisgrifio. 


Cafodd ddirwy o £3,500 a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £2,000 a thâl dioddefwr o £190. Fe'i gwaharddwyd hefyd rhag cynhyrchu dofednod ar sail fasnachol am bum mlynedd.


Dywedodd y Cyng. Michael Michael, Cadeirydd Cydbwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: "Roedd Mr David yn manteisio ar y galw am fwyd wedi ei gynhyrchu o anifeiliaid buarth yn lleol ond nid oedd yn gweithredu'r systemau sydd eu hangen i gynnal busnes bwyd diogel. Mae'n hanfodol bod busnesau'n meddwl am yr hyn maen nhw’n ei wneud, sut maen nhw’n ei wneud yn ddiogel a pheidio â chamarwain y cyhoedd.

 

martingeaorge2

"Mae swyddogion y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn gweithio'n galed i sicrhau cydymffurfiaeth gan fusnesau bwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg. Fel arfer, erlyn yw'r dewis olaf ar ôl cynnig cyngor ac arweiniad. Mae'r achos hwn yn dangos, er gwaethaf ymdrechion gorau swyddogion, bod rhai busnesau'n methu â chadw at gyfreithiau diogelwch bwyd ac felly'n peryglu iechyd y cyhoedd."


Dywedodd y Cynghorydd Edward Williams, Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Rheoliadol a Chynllunio, Cyngor Bro Morgannwg: "Dyma enghraifft o unigolyn yn poeni fawr ddim am ddiogelwch bwyd na'r angen i ddisgrifio cynnyrch yn gywir.


"Mae rheolaethau cyfraith bwyd ar waith i gadw pobl yn ddiogel a gall peidio â chadw atynt arwain at ganlyniadau difrifol i'r unigolion sy'n defnyddio cynhyrchion o'r fath.


"Mae hefyd yn bwysig bod bwyd yn cael ei labelu'n gywir fel y gall y cyhoedd wybod yn iawn beth yn union maen nhw'n ei brynu.


"Mae Mr David wedi methu'n gyson â bodloni'r gofynion hyn ac mae hynny'n rhywbeth na fydd yn cael ei oddef.


"Rwy'n gobeithio y bydd yr achos hwn yn cyfleu neges i eraill sy'n ystyried diystyru deddfwriaeth bwyd. Mae ein swyddogion yn drylwyr wrth sicrhau bod safonau'n cael eu bodloni ac ni fyddwn yn petruso rhag rhoi camau ar waith yn erbyn unrhyw un y canfuwyd ei fod yn torri'r rheolau." 


Am gyngor ac arweiniad ar redeg busnes bwyd sefydledig neu newydd, gan gynnwys sut i gael cyngor ar systemau rheoli diogelwch bwyd, ewch i dudalennau cyngor hylendid bwyd y GRhR.