Cost of Living Support Icon

 

Myfyrwyr Bro Morgannwg yn derbyn canlyniadau Safon Uwch ac UG 

Cadarnhawyd canlyniadau Safon Uwch ac UG  myfyrwyr Bro Morgannwg heddiw a gallant edrych ymlaen yn awr at y cam nesaf ar eu teithiau mewn addysg neu mewn swydd. 

 

  • Dydd Mawrth, 10 Mis Awst 2021

    Bro Morgannwg



Ar ôl 12 mis pan na lwyddwyd i sefyll arholiadau oherwydd pandemig Covid-19, penderfynwyd ar raddau yn ôl asesiad athrawon.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio:  "Ar ôl blwyddyn hynod heriol arall, hoffwn longyfarch yr holl bobl ifanc a dderbyniodd eu canlyniadau Safon Uwch ac UG heddiw. 


"Maen nhw wedi gorfod ymdopi ag amgylchiadau eithriadol ac mewn llawer o achosion wedi goresgyn y gofid hwnnw i gyflawni graddau rhagorol. 


"Mae ein hathrawon a'n harweinwyr ysgol wedi sicrhau bod y broses a gynhaliwyd dros y flwyddyn ddiwethaf wedi arwain at gyfres deg a chadarn o ganlyniadau i'n pobl ifanc.   


"Ar ran y Cyngor, hoffwn ddymuno pob lwc i fyfyrwyr ym mha beth bynnag a wnânt nesaf, p'un ai a ydynt yn  parhau â'u hastudiaethau yn y brifysgol neu'r coleg neu'n dechrau gweithio."