Cost of Living Support Icon

 

Gwasanaethau Plant yn helpu i ledaenu hwyl yr ŵyl i bobl ifanc y Fro

Mae tîm Gwasanaethau Plant Cyngor Bro Morgannwg wedi helpu i gydlynu rhodd gyda busnesau lleol i gefnogi plant a phobl ifanc ym Mro Morgannwg.

 

  • Dydd Gwener, 17 Mis Rhagfyr 2021

    Bro Morgannwg



Rhoddodd y Big Wrap, Tangent, Eglwys Rydd Unedig y Bont-faen, Clwb Pêl-droed y Barri a CJCH Solicitors i gyd anrhegion i'r achos, sy'n agosáu at 1000 o roddion. 


Bydd y rhain yn mynd i blant a phobl ifanc 0-14 a 15+ oed a fyddai fel arall yn annhebygol o dderbyn anrheg ar Ddydd Nadolig. 

 
Mae ein cydweithwyr yn y Gwasanaethau Plant wedi bod ar y rheng flaen drwy gydol y broses, yn trefnu man gollwng yn Swyddfeydd y Dociau ac yn bagio a thagio'r rhoddion.  Byddant yn cael eu danfon i gartrefi ledled y sir gan Dîm Dechrau'n Deg y Cyngor. 

Dywedodd yr aelod cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Ben Gray, "Rydym mor falch o'n timau Gwasanaethau Plant ac yn ddiolchgar i'r holl sefydliadau sydd wedi cymryd rhan.  Mae gweithred fach fel hyn yn mynd ymhell o ran lleddfu rhywfaint o'r pwysau enfawr y gallai teuluoedd ei wynebu dros y Nadolig. 


"Mae cynlluniau fel hyn hefyd yn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb anrhegion a mwynhad ar Ddydd Nadolig.  Yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae hyn yn bwysicach nag erioed." 

 

Children's services
Gifts for youth
Barry FC