Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn ystyried camau cyfreithiol i gymryd rheolaeth o brosiect Ysgol Glannau yr Barri

BYDD Cyngor Bro Morgannwg yn ystyried camau cyfreithiol i gymryd rheolaeth o’r gwaith o adeiladu Ysgol Glannau'r Barri os bydd datblygwyr yn gwrthod ildio rheolaeth yn wirfoddol. 

 

  • Dydd Mawrth, 14 Mis Rhagfyr 2021

    Bro Morgannwg

    Barri



Mae'r Rheolwr Gyfarwyddwr Rob Thomas wedi ysgrifennu at y Waterfront Consortium, grŵp o gwmnïau adeiladu sy'n gyfrifol am gyflawni'r cynllun, gan nodi safbwynt y Cyngor. 


Daw hyn wedi oedi cyson i’r gwaith a chyfres o gyfarfodydd lle methodd y consortiwm â rhoi unrhyw sicrwydd pendant ynghylch pryd y gallent ddechrau. 


Roedd yr amserlen ddiweddaraf yn awgrymu y byddai'r gwaith o adeiladu'r ysgol, a oedd i fod i agor fis Medi diwethaf yn wreiddiol, yn cael ei gwblhau yn gynnar yn 2023, er bod targedau blaenorol wedi'u methu'n gyson.

 
Mewn gwrthgyferbyniad llwyr, mae'r consortiwm wedi llwyddo i gynnal rhaglen reolaidd o adeiladu a gwerthu tai ar y glannau. 

CivicDwedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio:  "Digon yw digon.  Mae'n destun gofid ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn, ond mae'r consortiwm wedi profi nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb mewn adeiladu’r ysgol gynradd a addawyd ganddynt fel rhan o Ddatblygiad y Glannau. 
"Rwyf i, ynghyd â chynrychiolwyr eraill o’r Cyngor, wedi cynnal nifer o gyfarfodydd gyda nhw mewn ymdrech i fynd i'r afael â'r mater, ond nid ydym wedi gallu gwneud unrhyw gynnydd gwirioneddol. 


"Ar bob cam rydym wedi wynebu esgusodion, ond nid yw gwaith adeiladu tai'r datblygwyr wedi dioddef o'r un problemau, sy'n syfrdanol a dweud y gwir. 


"Ni allaf ond dod i'r casgliad, er eu bod yn hapus i adeiladu tai er budd masnachol, nad oes gan y Waterfront Consortium unrhyw ddiddordeb mewn cyflawni eu rhwymedigaeth i adeiladu cymuned. 
"Maent yn torri eu hymrwymiadau cyfreithiol yn ogystal â pholisïau llywodraeth leol a chenedlaethol ar greu lleoedd. 


"Mae'r consortiwm wedi torri addewidion i drigolion Bro Morgannwg ac mae hynny'n rhywbeth nad ydym yn barod i'w dderbyn. 


"Mae'r sefyllfa hon wedi cael ei goddef yn ddigon hir.  Rydym wedi ysgrifennu'n ffurfiol at y Waterfront Consortium yn gofyn iddynt drosglwyddo safle'r ysgol i ni.  Os nad yw'r datblygwyr yn cytuno, byddwn yn archwilio pa gamau cyfreithiol sydd ar gael i'n galluogi i gymryd rheolaeth." 

Mae'r Cyngor eisoes wedi cymryd camau gorfodi yn erbyn datblygwyr yng Nglannau'r Barri ar ôl iddynt ddechrau adeiladu eiddo preswyl heb ganiatâd cynllunio priodol. 


Cafodd Hysbysiad Stop Dros Dro hefyd ei gyhoeddi yn flaenorol yn atal adeiladu a gwerthu cartrefi newydd ar lan y dŵr nes bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud o ran creu gofod masnachol, gan gynnwys bariau a bwytai, sef y Ganolfan Ardal.