Cost of Living Support Icon

 

Diolch yn fawr iawn i bawb sy'n ein cadw ni'n ddiogel y Nadolig hwn  

Cyn yr hyn sy'n debygol o fod yn gyfnod heriol iawn, mae cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn anfon neges i ddiolch o galon at yr holl staff a gwirfoddolwyr hynny a fydd yn ein cadw'n ddiogel y Nadolig hwn. 

 

  • Dydd Mercher, 22 Mis Rhagfyr 2021

    Bro Morgannwg



Mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg dan bwysau digyffelyb. Er gwaethaf popeth y mae'r 21 mis diwethaf wedi'i daflu atynt, mae ein staff yn dal i weithio'n galed ar reng flaen ymateb Covid. 


Nododd 08 Rhagfyr 2022 flwyddyn ers i ni ddechrau rhoi'r brechiadau COVID-19 cyntaf yma yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae'r rhaglen frechu dorfol wedi bod yn gamp o weithio mewn partneriaeth sydd wedi gweld dros 930,000 o frechlynnau'n cael eu darparu, gan gynnwys dros 170,000 o frechlynnau atgyfnerthu. Mae'r gamp aruthrol hon yn dyst i'r gwydnwch a'r ymroddiad y mae staff, y gwasanaethau cyhoeddus a gwirfoddolwyr wedi parhau i'w dangos, sydd wedi bod yn hanfodol wrth helpu i ddiogelu ein poblogaeth yn gyflym rhag COVID-19. 


Rydym bellach ar gam hollbwysig arall yn y rhaglen frechu, gyda'r broses o gyflwyno pigiadau atgyfnerthu yn gyflymach nag erioed. Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gyda chymorth cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg, yn cynnig apwyntiad i bob oedolyn cymwys 18 oed a hŷn ar gyfer eu brechiad atgyfnerthu erbyn diwedd Rhagfyr 2021. Er mwyn cyflawni hyn bydd cymorth a chefnogaeth ein cymunedau yn hanfodol, ac rydym yn parhau i fod yn hynod ddiolchgar am ymdrechion y staff a'r gwirfoddolwyr ar draws safleoedd brechu Caerdydd a Bro Morgannwg. 


I ffwrdd o'r canolfannau brechu, ar Ddydd Nadolig, fel ar bob un o 364 diwrnod arall y flwyddyn, bydd staff iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio yn ein hysbytai a’n cartrefi gofal preswyl ac yn ymweld â'n cartrefi i roi'r gofal hanfodol sydd ei angen ar ein dinasyddion.   


Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu rhanbarthol, ni fydd ein timau'n rhoi'r gorau i olrhain achosion o'r amrywiolyn newydd ac yn rhoi cyngor a chymorth i'r rhai sy'n profi'n bositif. Mae eu gwaith yn bosibl gan staff yn ein safleoedd profi ac mewn labordai ledled y wlad sy'n derbyn ac yn prosesu miloedd o samplau bob wythnos.   


Rhaid cydnabod hefyd yr athrawon a'r rhai sy'n gweithio yn ein hysgolion. Ar ddiwedd y tymor ysgol anoddaf eto o bosib, mae ein staff bellach yn cynllunio eto ar gyfer ffyrdd newydd o gadw disgyblion i ddysgu tra’n eu cadw nhw, eu teuluoedd a'u cydweithwyr yn ddiogel.   


I bawb sy'n gweithio i'n cadw'n ddiogel y Nadolig hwn, ac i bawb sy'n chwarae eu rhan i gadw ein preswylwyr yn ddiogel a'n gwasanaethau i redeg, rydych yn ein gwneud yn falch o fod yn weision cyhoeddus. Diolch yn fawr iawn. 


Y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg:   
Y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd 
Charles Janczewski, Cadeirdydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro