Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn gosod llusernau stryd LED newydd ym Mhenarth

CYN bo hir, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn dechrau gosod 125 o lusernau LED sy'n arbed ynni i lampau Fictoraidd Penarth fel rhan o'r broses ehangach o'u cyflwyno ledled y Sir.

 

  • Dydd Mercher, 03 Mis Chwefror 2021

    Bro Morgannwg



lantern5Mae'r llusernau'n cysylltu â'r colofnau goleuo presennol felly maent yn cydymdeimlo â hanes y dref ac mae gwaith yn cael ei wneud ar ôl ymgynghori'n agos â Chymdeithas Ddinesig Penarth.


Gan gynhyrchu llai o wres, mae'r llusernau newydd yn fwy ecogyfeillgar ac wedi'u cyflwyno yn unol â Strategaeth Lleihau Ynni'r Cyngor.


Bydd y llusernau wedi'u gosod ar y colofnau sydd ar waith ar hyn o bryd i gadw traddodiad a hunaniaeth arbennig Penarth. 


Un o'r problemau gyda chadw'r hen golofnau Fictoraidd yw bod y gofod mewnol yn rhy fach i gartrefu'r cysylltiadau trydanol felly bydd piler bach, tebyg ei ddyluniad i'r colofnau, yn cael ei leoli wrth eu hochr i gartrefu'r gwifrau.

Dywedodd y Cynghorydd Peter King: "Mae'r llusernau newydd hyn yn defnyddio llawer llai o ynni na'r system oleuo flaenorol felly maent yn llawer gwell i'r blaned ac mae ein contractwr yn dechrau gweithio ar y gosodiad ym mis Chwefror.


"Rwy'n gwybod pa mor falch yw trigolion Penarth o dreftadaeth y dref, felly mae ein swyddogion wedi gweithio'n galed i sefydlu trefniant lle gall yr hen golofnau cast aros ac rydym yn hynod ddiolchgar am fewnbwn Cymdeithas Ddinesig Penarth, sydd wedi ein cynorthwyo gyda'r gwaith hwn."

Dywedodd David Noble, Ymddiriedolwr a Thrysorydd Cymdeithas Ddinesig Penarth: "Hoffai Cymdeithas Ddinesig Penarth gymeradwyo'r ffaith bod Cyngor Bro Morgannwg yn fodlon gwrando ar bryderon y gymuned am y cynllun gwreiddiol i ddisodli'r colofnau gyda physt galfanedig modern. Ar ôl gwrando ar y ddadl, roedd y Cyngor yn gallu meddwl am ateb a oedd yn sicrhau y gellid cadw'r colofnau gwreiddiol eiconig."