Cost of Living Support Icon

 

Gwahodd grwpiau i wneud cais ar gyfer Cronfa Grant Sefydliad y Maer

Mae Cronfa Grant Sefydliad y Maer Bro Morgannwg yn gwahodd ceisiadau gan Grwpiau Cymunedol, y Sector Gwirfoddol a sefydliadau dielw.

 

  • Dydd Gwener, 26 Mis Chwefror 2021

    Bro Morgannwg



Mayor's foundation grant fund
Gall grwpiau wneud cais am grantiau o rhwng £100 a £250 i helpu i gefnogi gwaith sefydliadau gwirfoddol ac elusennol ym Mro Morgannwg. Anogir ceisiadau gan y rhai sy'n cefnogi gweledigaeth y Cyngor o "gymunedau cryf sydd â dyfodol disglair."

 

Dywedodd y Cynghorydd Jayne Norman, Maer Bro Morgannwg: "Mae hon wedi bod yn flwyddyn heriol i bawb, ac mae grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol ac elusennol wedi dod yn bwysicach nag erioed.


"Byddwn yn annog pawb sy'n gymwys i wneud cais am gyfran o'r gronfa i helpu i gefnogi a gwella eu gwaith amhrisiadwy." 

 

Y dyddiad cau i wneud cais yw dydd Gwener, 26 Mawrth 2021. Gellir cyflwyno ceisiadau a gwirio os ydych yn gymwys ar-lein.

 

Gwneud cais