Cost of Living Support Icon

 

Cronfa caledi yn agor i breswylwyr y mae llifogydd wedi effeithio arnynt

Mae Cronfa Caledi Brys Llywodraeth Cymru bellach ar gael i breswylwyr yr effeithiwyd ar eu heiddo gan lifogydd tua diwedd mis Rhagfyr. 

  • Dydd Gwener, 05 Mis Chwefror 2021

    Bro Morgannwg

    Dinas Powys

    Penarth



Mae cynghorau'n gyfrifol am weinyddu taliadau Llywodraeth Cymru o naill ai £500, ar gyfer preswylwyr sydd ag yswiriant ar gyfer difrod llifogydd, neu £1000 i'r rhai nad oes ganddynt bolisïau yswiriant. 


Cynghorir preswylwyr yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd i lenwi ffurflen hawlio ar-lein, lle bynnag y bo modd, i gyflymu'r broses dalu. Ar gyfer preswylwyr nad ydynt yn gallu llenwi'r ffurflen ar-lein, mae llinell ffôn bwrpasol wedi'i sefydlu.


Bydd angen i breswylwyr gyflwyno tystiolaeth o'r difrod a achoswyd i'w cartrefi. Nid yw’r grant yn darparu ar gyfer difrod llifogydd i ail gartrefi, llety Air B&B, eiddo a oedd yn wag ar adeg y llifogydd ac ardaloedd eraill fel gerddi neu garejys. 


Effeithiodd fflachlifoedd yn bennaf ar eiddo yn Ninas Powys, Sili a Phenarth ar 23 Rhagfyr ar ôl cyfnod o law trwm. 


Ers hynny, mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi preswylwyr a busnesau yr effeithiwyd arnynt. 

Dywedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth:

"Rwy'n falch ein bod yn gallu cynnig cymorth pellach i breswylwyr drwy'r gronfa grant hon.

 

"Ers i'r llifogydd ddigwydd, rydym wedi penodi ymgynghorydd arbenigol i helpu i ymchwilio i'r llifogydd ac rydym wedi bod yn gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned i stocio cyflenwadau lleol o fagiau tywod i'w gwneud yn haws i breswylwyr gael gafael arnynt yn ystod achosion lle mae perygl llifogydd.

 

"Y gobaith yw y bydd y grant hwn yn cefnogi preswylwyr sydd wedi mynd i gostau annisgwyl o ganlyniad i lifogydd."

 

I gael rhagor o wybodaeth am feini prawf y grant ac i wneud cais, ewch i www.valeofglamorgan.gov.uk/llifogydd  neu ffoniwch 01446 729597