Cost of Living Support Icon

 

Canolfan Brechu Torfol yn agor yn y Barri

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn agor Canolfan Brechu Torfol gyntaf Bro Morgannwg heddiw yn y Barri. 

 

  • Dydd Llun, 08 Mis Chwefror 2021

    Bro Morgannwg



Dyma’r drydedd ganolfan o’i math i’w hagor gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fel rhan o’i raglen Brechu Torfol COVID-19, ochr yn ochr â’r rhai yn y Sblot ac ym Mhentwyn yng Nghaerdydd. 


Bydd y Ganolfan Brechu Torfol yn hybu’r capasiti brechu yn ardal y Bwrdd Iechyd, ochr yn ochr â thimau brechu symudol sy’n brechu preswylwyr cartrefi gofal a phobl sy’n gaeth i’w cartrefi, clinig lloeren yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ar gyfer staff a’r cyhoedd, a phractisau meddygon teulu ar draws yr ardal sydd oll yn darparu’r brechlyn.

 

Bydd y ganolfan newydd yn y Barri yn darparu 500 brechlyn y dydd i ddechrau, a bydd y capasiti’n cael ei gynyddu wrth i’r Bwrdd Iechyd dderbyn cyflenwad mwy o’r brechlyn. Trefnir yr apwyntiad cyntaf am 1pm ddydd Llun 8 Chwefror. 

 

holmview

Mae’r rhaglen ar y trywydd iawn i fod wedi cynnig y dos cyntaf o’r brechlyn i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-4 JCVI erbyn canol Chwefror, yn amodol ar y cyflenwad o’r brechlyn i’r rhanbarth. Hyd yma, mae dros 80,000 o bobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn. 

Meddai’r Athro Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae heddiw yn nodi deufis i’r diwrnod ers dechrau’r Rhaglen Brechu Torfol yma yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi cyrraedd carreg filltir bwysig arall drwy agor ein trydedd Ganolfan Brechu Torfol.

 
“Hoffwn ddiolch i bob unigolyn sydd wedi cyfrannu at ein cynnydd ardderchog yn ystod y ddeufis diwethaf, ac rwy’n hynod falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni ar y cyd mor belled.

 
“Rydym yn parhau ar y trywydd iawn i fod wedi cynnig y dos cyntaf o’r brechlyn i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-4 JCVI erbyn canol Chwefror, a byddwn yn parhau i weithio’n galed i frechu poblogaeth Caerdydd a Bro Morgannwg mor gyflym â phosibl y tu hwnt i hyn.  


“Yn y cyfamser, gofynnaf i’n cymunedau barhau i fod yn amyneddgar wrth i ni frechu ein grwpiau blaenoriaeth. Byddwn yn cysylltu â chi i gynnig eich apwyntiad brechu cyn gynted â phosib.” 

Mae’r Bwrdd Iechyd wrthi’n gweithio i gynnig y dos cyntaf o’r brechlyn i’r bobl olaf sy’n weddill o grwpiau blaenoriaeth 1-4 JCVI. Os ydych chi’n rhan o’r grwpiau hyn ac nad ydych wedi derbyn eich apwyntiad eto, dylech ddisgwyl clywed gennym yn fuan iawn. Bydd manylion am bobl mewn grwpiau blaenoriaeth eraill ar gael yn fuan. 

Dywedodd y Cynghorydd Ben Gray, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Mae agor canolfan frechu torfol Holm View yn y Barri yn gam pwysig yn ein hymateb rhanbarthol i bandemig y coronafeirws.

 

"Bob dydd, bydd nifer fawr o breswylwyr yn ymweld â'r cyfleuster i gael eu hamddiffyn rhag y feirws, gyda'r niferoedd yn cael y pigiad i gynyddu yn y dyfodol agos.

 

"Mae sefydlu'r ganolfan hon wedi bod yn waith cymhleth a fu’n bosibl drwy weithio'n agos mewn partneriaeth â chydweithwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

 

"Ar ôl blwyddyn eithriadol o anodd, rwy'n gobeithio bod hyn yn arwydd arall ein bod yn dod o'r argyfwng ofnadwy hwn.

 

"Ond mae 'na beth ffordd i fynd o hyd cyn i fywyd ddychwelyd i normal felly byddwn i'n annog pawb i barhau i ddilyn cyfyngiadau Lefel Pedwar Llywodraeth Cymru."

Rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Brechu Torfol.