Cost of Living Support Icon

 

Terfyn cyflymder 20MYA newydd yn Saint-Y-Brid

Caiff terfyn cyflymder 20mya newydd ei gyflwyno yn Saint-y-brid ar ôl i Gyngor Bro Morgannwg lwyddo i sicrhau mwy na £100,000 gan Lywodraeth Cymru.

 

  • Dydd Gwener, 19 Mis Chwefror 2021

    Bro Morgannwg



Cadarnhawyd y bydd y brif ffordd sy’n rhedeg trwy’r pentref yn treialu’r cyfyngiad cyflymder a fydd ar waith o’r adeg y bydd cerbydau’n mynd i mewn i’r pentref tan yr adeg y byddant yn ei adael.

 

Bydd arwyddion sy’n nodi’r terfyn newydd ar ddangos wrth i yrwyr agosáu at Saint-y-brid, gydag arwyddion llai ychwanegol yn cael eu gosod ar hyd y ffordd.

 

Penderfynwyd treialu’r terfyn hwn yma ar ôl i drigolion fynegi pryderon am lefel y traffig sy’n teithio trwy’r pentref, yn enwedig pa mor aml y mae Cerbydau Nwyddau Trwm yn defnyddio’r llwybr.

 

Awgrymodd sylwadau a roddwyd i’r Cyngor ac adborth o ymarfer ymgynghori eu bod am i’r terfyn 30mya cyfredol gael ei ostwng.

 

Fel un o nifer o gynlluniau peilot ledled Cymru, caiff data o'r cynllun ei gasglu cyn i gyfyngiadau 20mya gael eu cyflwyno'n ehangach yng Nghymru yn 2023.

 

Dwedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Rwyf wrth fy modd bod Saint-y-brid wedi cael ei dderbyn i weithredu un o gynlluniau peilot 20mya Llywodraeth Cymru.

 

"Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth yr oedd y pentrefwyr ei eisiau. Rydym wedi gwrando ar eu pryderon ac wedi gallu cymryd camau pendant.

 

"Gyda siopau, swyddfa bost a thafarn ar y brif ffordd, yn ogystal ag ysgol gynradd ac amwynderau eraill mewn mannau eraill yn y pentref, credwn fod 20mya yn derfyn cyflymder priodol ac yn un a ddylai wneud Saint-y-brid yn fwy diogel."

 

Dwedodd y Cynghorydd Stewart Edwards, Aelod Ward Cyngor Bro Morgannwg dros Saint-y-brid: "Rwyf wrth fy modd ein bod ni, gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Cymuned Saint-y-brid a’r grŵp Cadw Saint-y-brid yn Ddiogel, wedi llwyddo i sicrhau'r cynllun peilot 20mya hwn. Bydd y cynllun hwn yn gwneud y pentref yn lle mwy diogel ac edrychaf ymlaen at ei weithredu."