Cost of Living Support Icon

 

Esplanade Penarth i gau ar gyfer gwaith ailwynebu newydd

Bydd ffordd Cliff Hill a’r Esplanade ar gau bob dydd o'r gyffordd â Marine Parade i gyffordd Bridgeman Road i ganiatáu ar gyfer gwaith ailwynebu fel rhan o'r cynllun parcio newydd ar hyd Cliff Hill.

 

  • Dydd Iau, 18 Mis Chwefror 2021

    Bro Morgannwg



Bydd y ffyrdd hyn ar gau rhwng 8am a 5pm gan ddechrau ddydd Llun, 22 Chwefror i ddydd Iau, 26 Chwefror 2021.

 

Bydd gwyriadau lleol ag arwyddion ar waith i gyfeirio traffig. Bydd y ffordd yn cael ei hailagor bob nos i leihau unrhyw anghyfleustra. Bydd mynediad ar gyfer perchnogion eiddo, gwasanaethau brys a cherddwyr bob amser.  Bydd llythyrau'n cael eu hanfon at bob perchennog eiddo yr effeithir arno ar hyd Esplanade Penarth, a chaiff arwyddion Rhybudd Ymlaen Llaw eu codi ar yr Esplanade i roi gwybodaeth i ymwelwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Peter King, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: “Rydym yn falch o ddweud bod gwaith ar y cynllun parcio ar y gweill. Mae Penarth a'r Esplanade bob amser wedi bod yn gyrchfannau poblogaidd i bobl leol a thwristiaid.


“Unwaith y bydd cyfyngiadau Coronafirws wedi’u llacio a bod pobl yn cael teithio, bydd y cynllun parcio newydd yn darparu capasiti parcio a throsiant ychwanegol i helpu i ddarparu ar gyfer y nifer cynyddol o ymwelwyr â’r ardal.

 

“Rwy’n siŵr y bydd hwn yn welliant i’w groesawu i fusnesau a’r economi leol, gan ganiatáu i’r safle ffynnu.”

 

Cabinet Report on the proposed parking scheme