Cost of Living Support Icon

 

Partneriaid Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn lansio siarter Argyfwng Hinsawdd

Mae partneriaid Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg (BGC) wedi lansio Siarter newydd sy'n rhoi manylion am eu hymrwymiad i fynd i'r afael â'r Argyfwng Hinsawdd gyda'i gilydd.

 

  • Dydd Mawrth, 09 Mis Chwefror 2021

    Bro Morgannwg



Mae'r Siarter yn adeiladu ar y camau a gymerwyd eisoes i ddiogelu a gwella amgylchedd y Fro ers y datganiad Argyfwng Hinsawdd yn 2019. 

 

Mae'n nodi cyfres o gamau gweithredu allweddol ar gyfer partneriaid y BGC, yn eu sefydliadau eu hunain ac i weithredu mewn partneriaeth, gyda'r nod o reoli a chyfyngu ar effeithiau newid yn yr hinsawdd:

 

  • Lleihau allyriadau i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd gan addasu i'w effeithiau.
  • Bod yn fwy caredig wrth ein hamgylchedd.
  • Bod yn iachach.
  • Dod yn Sector Cyhoeddus Carbon Niwtral erbyn 2030.

Mae'r Siarter wedi'i llywio gan waith ymgysylltu a wnaed gyda phobl ifanc o bob rhan o’r Fro ac mae wedi ceisio adlewyrchu’r adborth hwn.

 

Bydd Grŵp Llywio'r Siarter Newid yn yr Hinsawdd yn arwain y prosiect, gan sicrhau bod y camau gweithredu a nodir yn cael eu cyflawni, gydag adroddiadau cynnydd rheolaidd i'r BGC. Mae enghreifftiau o'r gwaith arfaethedig yn cynnwys:- Cynlluniau gan Gyngor Bro Morgannwg i agor yr ysgolion carbon net-sero cyntaf yng Nghymru.

 

  • Gweithio gan Cyfoeth Naturiol Cymru i leihau allyriadau yn ei gadwyni cyflenwi drwy wella arferion caffael.
  • Plannu coed mewn ysgolion ac ar dir arall sy'n eiddo i bartneriaid y BGC.
  • Gwella adeiladau gan bartneriaid y BGC i gynyddu effeithlonrwydd ynni.

Dywedodd y Cyng. Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a Chadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg: "Mae lansio Siarter Argyfwng Hinsawdd y BGC yn gam enfawr ymlaen yn ein brwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. 

 

"Mae ymateb y Fro i bandemig y coronafeirws dros y 10 mis diwethaf wedi pwysleisio faint y gellir ei gyflawni pan fo sefydliadau'n gweithio gyda'i gilydd. Rhaid i ni barhau i adeiladu ar yr hyn rydym wedi'i ddysgu a'i ddefnyddio yng nghyd-destun yr angen dybryd i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

 

"Drwy gyflawni'r camau hyn a thrwy ein gwaith partneriaeth parhaus, gallwn gael effaith barhaol ar yr Argyfwng Hinsawdd er mwyn sicrhau y caiff cenedlaethau'r dyfodol barhau i fwynhau ein hamgylcheddau naturiol."

 

Dywedodd Nadia De Longhi, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae trawsnewid y ffordd rydyn ni i gyd yn byw ein bywydau yn hanfodol os yw Cymru eisiau mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur y mae'n eu hwynebu."

 

Mae ein Hadroddiad ar Gyflwr Cyfoeth Naturiol a lansiwyd yn ddiweddar yn tynnu sylw at effeithiau presennol newid yn yr hinsawdd er mwyn ennyn cefnogaeth ar gyfer datgarboneiddio cyflym. 

 

"Mae'r Siarter hon yn gyfle i nodi'r hyn y gall pob partner y BGC weithio arno i liniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd, rhannu arfer da ac ysbrydoli ei gilydd.

 

"Mae llawer o feysydd lle gallwn ni, fel BGC y Fro, arwain drwy esiampl i leihau ein hallyriadau a chymryd camau cadarnhaol i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur"

 

Dywedodd Mark Brace, Comisiynydd Cynorthwyol Comisiynydd Heddlu a Throseddu, De Cymru ac Is-gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus: "Mae'r Siarter Argyfwng Hinsawdd yn dangos ymrwymiad clir gan y BGC i gydweithio a chwarae ein rhan wrth fynd i'r afael ag un o heriau mwyaf ein cyfnod. Mae'n nodi ein huchelgais i arwain drwy esiampl a chydweithio i newid y ffordd rydym yn gweithio ac yn byw, gan sicrhau gwahaniaeth cynaliadwy yng nghymunedau a sefydliadau ar draws Bro Morgannwg."

 

Mae Siarter Argyfwng Hinsawdd BGC Bro Morgannwg ar gael ar wefan y BGC a bydd adroddiadau rheolaidd ar y cynnydd.

 

Siarter Argyfwng Hinsawdd