Cost of Living Support Icon

 

Cam yn nes ar gyfer cyfadeilad bwytai 

Mae cynlluniau i droi'r hen gyfleusterau cyhoeddus ar Nell's Point yn ganolfan bwyty wedi symud gam yn nes ar ôl i Gyngor Bro Morgannwg ymrwymo i drefniant prydlesu gyda’r datblygwyr Next Colour.

 

  • Dydd Mercher, 24 Mis Chwefror 2021

    Bro Morgannwg

    Barri



Byddai'r prosiect, a fyddai’n cael ei gynnal gan y cwmni y tu ôl i gynllun Oyster Wharf yn y Mwmbwls, yn trawsnewid yr adeilad Fictoraidd 100 mlwydd oed yn bedair uned fasnachol gyda lle eistedd awyr agored.


Mae nifer o enwau nodedig wedi mynegi diddordeb mewn agor siopau/caffis ar y safle, gan gynnwys Loungers, cadwyn bar coffi gyda changhennau ledled Bryste, Caerfaddon a De Cymru, gydag Ocho Lounge ym Mhenarth yn eu plith.


Byddai gan fusnesau ar y safle olygfeydd godidog dros Fae Whitmore ac Aber Afon Hafren.

 

nellspoint

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio:  "Rwyf wrth fy modd ein bod wedi sefydlu trefniant prydles gyda Next Colour ynghylch datblygu'r hen gyfleusterau cyhoeddus yn Nell's Point.


"Mae hyn yn garreg filltir bwysig, un sy'n golygu bod y posibilrwydd o leoli casgliad cyffrous o fusnesau lletygarwch ar Ynys y Barri yn nes at gael ei wireddu. 


"Bydd dod â bwytai newydd o safon uchel i Ynys y Barri yn rhoi hwb pellach i'r ardal ac yn helpu i gadarnhau ei henw da fel cyrchfan glan môr o'r radd flaenaf. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Next Colour i wneud y lleoliad hyd yn oed yn fwy deniadol i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd."


Mae'r datblygiad, sydd wedi'i ohirio oherwydd pandemig Covid-19 ac ymchwiliadau i sefydlogrwydd yr adeiledd, yn parhau i fod yn destun ceisiadau cynllunio ac adeilad rhestredig. 


Dywedodd James Morse, Prif Swyddog Gweithredol Next Colour: "Mae'n wych bod amodau'r farchnad bellach yn ein galluogi i symud ymlaen â’r prosiect hwn. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gyflawni'r datblygiad hwn, a fydd yn dod â bwytai o ansawdd uchel i'r ardal. Ar wahân i gynnig lleoedd deniadol i gwsmeriaid fwyta, gobeithiwn y bydd y busnesau hyn yn darparu swyddi, yn cynyddu nifer yr ymwelwyr ac yn rhoi hwb i'r economi leol.”