Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg y ysgwyddio cynnal Pafiliwn Pier Penarth

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol Pafiliwn Pier Penarth fel cyfleuster cymunedol yn dilyn y newyddion bod Penarth Arts & Crafts Ltd (PACL) wedi ildio'r brydles ar yr adeilad.

 

  • Dydd Gwener, 26 Mis Chwefror 2021

    Bro Morgannwg



Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol Pafiliwn Pier Penarth fel cyfleuster cymunedol yn dilyn y newyddion bod Penarth Arts & Crafts Ltd (PACL) wedi ildio'r brydles ar yr adeilad.
 
Cyn y Nadolig, cychwynnodd Cyngor Bro Morgannwg drafodaethau gyda PACL a sefydliadau'r Loteri Genedlaethol i sicrhau bod yr adeilad yn parhau i fod ar gael i bobl Penarth a Bro Morgannwg yn ehangach.  Mae'r trafodaethau hynny bellach wedi'u cwblhau a bydd y Cyngor nawr yn ymgymryd â rhedeg y Pafiliwn. Fel arwydd o'i ymrwymiad, mae eisiau anrhydeddu yr holl archebion ar gyfer digwyddiadau lle talwyd blaendal, fel arwydd o ewyllys da, blaendaliadau a fyddai wedi'u colli fel arall.

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd y Cyngor: "Fe wnaeth y Cyngor, ynghyd â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, fuddsoddi swm sylweddol o arian grant i greu cyfleuster cymunedol ar Bier Penarth.  Fel Cyngor, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau y gall adeilad Pafiliwn y Pier weithredu at y diben hwnnw. 


"Fel Cyngor, byddwn yn anrhydeddu unrhyw archebion ar gyfer digwyddiadau y talwyd blaendaliadau ar eu cyfer. Y gobaith yw y bydd Cyfarwyddwyr PACL mewn cysylltiad uniongyrchol ag unrhyw un yn y sefyllfa hon i roi cyngor ar sut i gysylltu â ni i drafod y trefniadau hyn.  Byddaf yn cyflwyno adroddiad i Gabinet y Cyngor cyn bo hir yn nodi'r trefniadau hyn yn ffurfiol."
 
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "O’r cychwyn cyntaf, nod y Cyngor oedd sicrhau y gellid cadw’r Pafiliwn at ddefnydd y gymuned.   Wrth arwain a bod ar flaen y gad yn y trafodaethau, dyma oedd egwyddor arweiniol y Cyngor.  Rydym hefyd wedi sicrhau bod gwaith wedi dechrau ar sefydlu cynllun ar gyfer gweithrediad y Pafiliwn cyn gynted ag y bydd yr amodau'n caniatáu.  Bydd y cynlluniau hyn yn cynnig cymysgedd o ddefnyddiau cymunedol ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid a grwpiau cymunedol i lunio'r ffordd ymlaen ar gyfer yr adeilad eiconig hwn.”
 
Dywedodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr y Cyngor: "Rwy'n falch bod y tîm o uwch swyddogion y Cyngor sydd wedi bod yn gweithio'n ddiflino ar y mater hwn wedi gallu llywio cwrs drwy gyfnod anodd yn hanes Pafiliwn y Pier a'u bod bellach wedi cwblhau trafodaethau. Mae'r trafodaethau hyn wedi bod yn hir ac yn heriol ond roeddent bob amser yn seiliedig ar awydd y Cyngor i ddod â'r adeilad yn ôl i ddefnydd buddiol cyn gynted â phosibl.  Mae'r canlyniad yn dyst i'r berthynas waith dda rhwng y Cyngor a chyrff y Loteri a gwaith caled cydweithwyr. 


"Gallaf gadarnhau y bydd y Cyngor nawr yn cymryd perchnogaeth weithredol dros Bafiliwn y Pier a bydd ganddo dîm o weithwyr proffesiynol medrus yn barod i ddechrau ar y gwaith angenrheidiol er mwyn gallu agor y Pafiliwn cyn gynted ag y bydd amgylchiadau'n caniatáu."
 
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Gallwn gadarnhau ein bod yng nghamau olaf trafodaethau â Chyngor Bro Morgannwg ynghylch trosglwyddo rhedeg pafiliwn Pier Penarth draw iddyn nhw. Byddwn yn cyhoeddi datganiad llawn pan allwn wneud hynny.
 
“Mae Pafiliwn Pier Penarth yn strwythur eiconig a hoff gan lawer sydd wedi derbyn cefnogaeth dros y 12 mlynedd diwethaf gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, ac yn yr amser hwnnw rydym wedi gweithio’n agos gyda PACL i ddiogelu’r adeilad ar gyfer heddiw a chenedlaethau’r dyfodol.”
 
Dywedodd Andrew Owen, Pennaeth Cyllid, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Cyngor yn ystod y misoedd nesaf i weld y Pafiliwn yn gweithredu unwaith eto at y dibenion y bwriadwyd yr arian ar eu cyfer. Mae llawer o sefydliadau wedi wynebu heriau sylweddol, yn enwedig yn ystod y pandemig, a hoffwn dalu teyrnged i waith y partneriaid a'r Cyfarwyddwyr. Mae'r gwaith hwnnw wedi sicrhau bod yr adeilad yn cael ei drosglwyddo'n esmwyth a fydd yn arwain at ei weld yn cael ei ddefnyddio unwaith eto gan bobl Penarth a'r gymuned ehangach."