Cost of Living Support Icon

Plannwyd ‘Tiny Forest’ cyntaf Cymru yn y Fro

Mae pum coedwig maint cwrt tenis yn cael eu sefydlu gan Cadwch Gymru'n Daclus

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg, ynghyd â grŵp o wirfoddolwyr, wedi plannu goedwig bychain a noddir gan Cadw Cymru'n Daclus ym Mharc Pencoedtre. Mae’n un o 'Tiny Forest' cyntaf Cymru i gael ei sefydlu.

 

Mae lleoliadau eraill ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Conwy, Gwynedd, Bro Morgannwg a Chaerdydd wedi'u dewis yn ofalus i sicrhau'r effaith fwyaf posibl ar gyfer natur a chymunedau trefol. Mae gwaith i baratoi'r pridd eisoes wedi'i gwblhau, gyda’r disgwyl y bydd 25 o rywogaethau brodorol yn cael eu plannu erbyn diwedd mis Chwefror.

 

Planting-of-a-Tiny-Forest-in-Pencoedtre-Park

 

"Mae'n gyffrous gweld y pum Coedwig Fach gyntaf yn cael eu datblygu yng Nghymru. Er eu bod yn fach o ran maint, rydym yn siŵr y byddant yn cael effaith fawr ar fioamrywiaeth a lles pobl am genedlaethau i ddod.

 

"Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru a’n partneriaid yn Earthwatch a Coed Cadw am wneud hyn yn bosibl. Edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw i ehangu’r cynllun i drefi a dinasoedd eraill ledled Cymru."


- Louise Tambini, Dirprwy Brif Weithredwr Cadw Gymru'n Daclus

Mae Tîm Parciau'r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda Cadw Cymru'n Daclus, Gwasanaethau Safle Ace, aelodau lleol a Chymdeithas Trigolion Gibbonsdown i wneud y prosiect hwn yn bosibl.
 
Fe wnaethant dilyn dull arbennig o blannu sydd wedi’i brofi i alluogi coed i dyfu'n gyflymach, yn ddwysach ac yn fwy bioamrywiol na choetir safonol newydd ei blannu. Y nod yw denu bywyd gwyllt, gwella ansawdd aer, cael gwared ar nwyon tŷ gwydr niweidiol o'r atmosffer a helpu i leihau llifogydd lleol.

 

Lleoliadau'r Coedwigoedd Bychain cyntaf yng Nghymru yw: 

  • Nant-y-moel, Pen-y-bont ar Ogwr

  • Y Cae Chwarae, Rhodfa Llanelwy, Bae Cinmel, Conwy

  • Coed Bach Pendalar/Ysgol Pendalar, Gwynedd   

            

  • Pencoedtre, Gibbonsdown, Bro Morgannwg      

           

  • Bae Caerdydd

Filming-at-Pencoedtre-Park-in-Barry
(Yn y llun, criw ITV Cymru yn ffilmio ym Mharc Pencoedtre yn y Barri)

 

"Mae ein mannau gwyrdd wedi chwarae rhan enfawr yn y gwaith o wella ein lles trwy gydol pandemig Covid-19, ac rwyf wrth fy modd bod Cadwch Gymru'n Daclus, trwy ein rhaglen Coedwig Genedlaethol, wedi dechrau plannu ein Coedwigoedd Bychain cyntaf yng Nghymru.

 

"Rwy'n awyddus bod pawb yn cael y cyfle i elwa o goetiroedd, ac mae'r ardaloedd hyn wedi'u dewis i gynnig hyn mewn mannau lle mae diffyg mynediad i fannau gwyrdd fel arall.

 

"Byddwn yn annog y rhai sydd â diddordeb yn natblygiad y Goedwig Genedlaethol i ddod i’n digwyddiad ar-lein am ddim rhwng 10 a 12 Mawrth, a fydd yn ystyried manteision coetiroedd a choed i bawb.

 

"Gall y rhai sydd â diddordeb fynegi hwn yn coedwiggenedlaetholcymru@gov.cymru."

 

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

 

Ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus i gael rhagor o wybodaeth am Goedwigoedd Bychain yng Nghymru www.keepwalestidy.cymru/y-goedwig-fechan