Cost of Living Support Icon

 

Cabinet Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn croesawu cyflwyno brechlynnau mewn cartrefi gofal

Mae’r Cynghorydd Ben Gray wedi canmol y gwaith o gyflwyno brechlynnau yng nghartrefi gofal Bro Morgannwg, fydd yn golygu y bydd pob preswylydd ac aelod o staff yn cael y pigiad erbyn diwedd mis Ionawr.

  • Dydd Iau, 21 Mis Ionawr 2021

    Bro Morgannwg



Dechreuodd y bobl hynny sy'n byw ac yn gweithio yng nghartrefi gofal y Sir gael pigiadau rai wythnosau'n ôl.


Mae cyfran fawr bellach wedi'u cael - a'r gobaith yw y bydd y ffigur hwnnw'n cyrraedd 100 y cant cyn y mis nesaf.

 

Mae diogelu rhai o drigolion mwyaf agored i niwed y Fro a'r rhai sy'n gofalu amdanynt yn gam mawr tuag at oresgyn coronafeirws, ac mae'r Cynghorydd Gray, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, yn teimlo’n gadarnhaol am y cynnydd sy'n cael ei wneud.

 

Cllr Ben Gray small

 "Mae cyfradd brechu preswylwyr a staff cartrefi gofal yn galonogol dros ben a dylai wneud i ni deimlo’n hyderus ein bod yn ennill y frwydr yn erbyn Covid-19," meddai.


"Mae rhai o'r bobl hynny sydd fwyaf tebygol o fynd yn ddifrifol wael pe baent yn cael eu heintio â coronafeirws yn byw yn ein cartrefi gofal, tra bod y risg o drosglwyddo mewn lleoliad o'r fath hefyd yn uchel oherwydd y nifer fawr o bobl sy'n gweithio ac yn byw mewn un adeilad.


"Dyna pam eu bod ar frig y rhestr flaenoriaethu o ran gweinyddu'r brechlyn. Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud pob ymdrech i'w diogelu."


Rhoddodd y Cynghorydd Gray ganmoliaeth arbennig i staff cartrefi gofal, sydd wedi mynd ati'n anhunanol i wneud eu gwaith yn yr amgylchiadau mwyaf heriol.


"Mae staff cartrefi gofal wedi chwarae rhan arwrol yn ein hymateb i'r feirws hwn. Maen nhw wedi mynd y tu hwnt i ofalu am ein trigolion mwyaf bregus, gan roi anghenion pobl eraill o flaen eu hanghenion eu hunain yn rheolaidd," meddai.


"Ni ellir gorbwysleisio'r ymroddiad hwnnw ac mae'n dyst i'r bobl sy'n gweithio yn ein hadran gofal cymdeithasol ein hunain a'r rhai sy'n gweithio yn y cartrefi gofal annibynnol niferus yn y Fro.


"Rwy'n hynod ddiolchgar ac yn falch o'r ymrwymiad hwnnw, yn ogystal ag o ymdrechion ein holl weithwyr gofal cymdeithasol eraill, heb sôn am weithwyr allweddol eraill: staff ysgolion, timau casglu gwastraff a phawb arall sydd wedi mynd yr ail filltir i gadw'r Sir i symud yn ystod yr argyfwng hwn."


Er gwaetha’r lle i deimlo’n gadarnhaol, rhybuddiodd y Cynghorydd Gray breswylwyr hefyd i beidio â mynd yn hunanfodlon.


Er bod llwybr clir allan o'r argyfwng hwn erbyn hyn, mae dychwelyd i fywyd normal yn dal i fod yn bell i ffwrdd.


Yn y cyfamser, bydd y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i gefnogi trigolion.


Mae'n bwysig parhau i bwysleisio'r neges y dylai pawb fod yn ymwybodol ohoni nawr," ychwanegodd y Cynghorydd Gray. "Er bod y broses frechu yn parhau, mae angen i ni aros gartref, gan adael dim ond i wneud ymarfer corff a chasglu cyflenwadau hanfodol. Ni ddylech gyfarfod ag unrhyw un nad yw yn eich cartref a gweithio gartref pryd bynnag y bo modd.


"Byddwn yn parhau i gynnig cymorth i unigolion a busnesau sydd ei angen. Ond mae ein swyddogion gorfodi hefyd yn gweithio gyda'r heddlu i sicrhau bod y rheolau'n cael eu dilyn. Pan nad ydynt, byddwn yn cymryd camau cadarn a phendant os yw'n briodol heb unrhyw oedi.


"Mae llawer o wasanaethau gofal cymdeithasol yn parhau i weithredu ac mae ein hysgolion yn parhau i fod ar agor i blant gweithwyr allweddol. Ar draws y Cyngor, mae pobl yn gweithio'n galed i gynnal y gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt.


"Rydym yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn y Bwrdd Iechyd Prifysgol i helpu i reoli safleoedd profi, fel yr un ar Colcot Road, y gwasanaeth olrhain cysylltiadau Profi, Olrhain, Diogelu, a sefydlu'r ganolfan brechu torfol newydd yng Nghanolfan Hamdden Holm View yn y Barri. 


"Yn y pen draw diogelwch, iechyd a lles trigolion yw ein prif flaenoriaeth a byddwn yn gwneud beth bynnag sydd o fewn ein gallu i ddiogelu hyn gan ein bod i gyd yn parhau i deimlo effaith y pandemig."