Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor a yr Heddlu i ddwysau gweithgareddau gorfodi ar Esplanad Penarth

Unwaith eto, bydd swyddogion Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru i sicrhau bod Cyfyngiadau Lefel 4 Llywodraeth Cymru yn cael eu dilyn ar Esplanâd Penarth y penwythnos hwn

 

  • Dydd Gwener, 15 Mis Ionawr 2021

    Bro Morgannwg



Cafwyd adroddiadau bod grwpiau'n ymgynnull ger busnesau a phobl yn teithio mewn ceir i ymweld â'r lleoliad hwn.


Ni chaniateir yr un o'r gweithgareddau hyn o dan y mesurau presennol a roddwyd ar waith i fynd i’r afael â phandemig y coronafeirws.


Mewn ymdrech i wella'r sefyllfa, bydd y Cyngor a'r Heddlu yn dwysáu eu gweithgareddau yn yr ardal.


Bydd arwyddion sy'n atgoffa pobl o'r rhagofalon diogelwch y mae angen iddynt eu cymryd yn cael eu rhoi ar yr Esplanâd a Morglawdd Bae Caerdydd, gyda negeseuon tebyg yn cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Penarth PSPO

Bydd teledu cylch cyfyng symudol hefyd ar waith i nodi torri ar y rheolau law yn llaw â mwy o bresenoldeb gan swyddogion yr Heddlu a'r Cyngor.


Byddant yn helpu i orfodi'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus sy'n gwneud Esplanâd Penarth yn ardal dim alcohol, yn sicrhau bod ceir yn cael eu parcio'n gywir ac nad yw pobl wedi teithio o'r tu allan i'r ardal.


Bydd gwiriadau'n cael eu gwneud i sicrhau bod busnesau'n gweithredu o fewn telerau eu trwyddedau ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth Covid, a gofynnir i fasnachwyr hefyd ddefnyddio arwyddion i atgyfnerthu canllawiau diogelwch.


Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Rydym yn ymwybodol o adroddiadau nad yw rhai o'r cyfyngiadau Lefel 4 sydd ar waith ledled y wlad yn cael eu dilyn ar Esplanâd Penarth.


"Mae hwn yn fater eithriadol o ddifrifol. Fel y dylai pawb wybod erbyn hyn, mae'r mesurau hyn ar waith i gadw pobl yn ddiogel a helpu i leihau cyfradd heintio Covid-19, sy'n dal yn frawychus o uchel.


"Rwy'n gwybod bod y mwyafrif helaeth o drigolion y Fro wedi dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru o'r cychwyn cyntaf. Fodd bynnag, mae yna leiafrif nad ydynt yr un mor ystyriol a'r unigolion anghyfrifol hyn rydym yn eu targedu.


"Ni ddylai'r grŵp hwn fod dan unrhyw gamdybiaeth, pan fo pobl yn gwrthod dilyn y rheolau, bydd ein swyddogion a'r Heddlu yn cymryd camau gorfodi heb oedi." 


Ychwanegodd Prif Arolygydd Caerdydd a'r Fro, Tony Williams: "Mae cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 wedi bod ar waith ers cyn y Nadolig ac mae'r ddeddfwriaeth yn glir. Dim ond am nifer cyfyngedig o resymau y dylai'r cyhoedd fod yn gadael eu cartref, ac er bod ymarfer corff yn cael ei ganiatáu a'i annog, nid ystyrir bod teithio i wneud hynny yn rhesymol.


"Bydd ein swyddogion yn parhau i batrolio yn ein cymunedau, gan weithio'n agos gyda'n partneriaid yn y cyngor ac ymgysylltu â'r cyhoedd i'w hatgoffa o'u cyfrifoldebau dan y ddeddfwriaeth. 


"Er bod y mwyafrif helaeth o bobl yn cydymffurfio â'r rheolau ac yn gwneud eu rhan er mwyn helpu i arafu lledaeniad y feirws, mae lleiafrif bach o hyd nad ydynt yn credu bod y rheolau'n berthnasol iddyn nhw. I'r bobl hynny, mae ein neges yn glir: byddwn yn gorfodi unrhyw dorri amlwg ar y rheolau."