Cost of Living Support Icon

 

Cynllun Kickstart 

Hoffech chi ehangu’ch busnes? Gall Cyngor Bro Morgannwg eich helpu gyda'r cynllun Kickstart newydd.  

 

Kickstart-scheme-header

 

Gall Cyngor Bro Morgannwg eich helpu gyda'r cynllun Kickstart newydd.  Rydych yn creu lleoliadau gwaith chwe mis ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed sydd ar gredyd cynhwysol ar hyn o bryd ac sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith am gyfnod hir, bydd y lleoliad hwn yn cael ei ariannu'n llawn gan y Llywodraeth.

 

Bydd cyllid y cynllun yn cwmpasu 100% o'r isafswm cyflog cenedlaethol am 25 awr yr wythnos, ynghyd â chyfraniadau yswiriant gwladol a chyfraniadau cofrestru awtomatig.  Nid prentisiaeth yw'r cynllun; fodd bynnag, gall pobl symud i brentisiaeth ar unrhyw adeg yn ystod neu ar ôl eu lleoliad gyda chi.

 

Rhaid i'r swydd fod yn newydd, ni ellir ei ddefnyddio i lenwi swydd ddiangen, ac ni all ychwaith beri i weithwyr presennol golli eu swydd.

 

Bydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn helpu i gefnogi rhai costau sefydlu ar gyfer offer, hyfforddiant neu i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd ar gyfer y person ifanc a gaiff ei recriwtio.

 

Gall cyflogwyr o bob maint wneud cais. Gallwch wneud cais i lenwi un swydd neu sawl un.

 

I gael rhagor o wybodaeth ac i un o'n cynghorwyr roi galwad yn ôl i chi, anfonwch e-bost at eich rhif cyswllt gorau i 

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 15 Ionawr 2021