Cost of Living Support Icon

 

Brechlynnau wrthi’n cael eu cyflwyno i gartrefi gofal ym Mro Morgannwg

Mae'r broses o gyflwyno'r brechlyn COVID-19 mewn cartrefi gofal ym Mro Morgannwg wedi dechrau.

 

  • Dydd Iau, 14 Mis Ionawr 2021

    Bro Morgannwg



Peggy Nicholls vaccinationCartref Gofal Towerhill ym Mhenarth oedd y cartref gofal cyntaf yn y Fro i gael brechlynnau i'w holl breswylwyr a staff yr wythnos diwethaf.Mae Towerhill yn gartref i 14 o drigolion. 

Peggy Nicholls, sy'n 87 oed ac sydd wedi byw yn y cartref ers mis Ionawr 2019, oedd un o'r cyntaf i dderbyn y pigiad. Dywedodd: "Rwy'n credu ein bod yn lwcus iawn i gael y brechlyn. Mae'n gwneud i mi deimlo'n llawer mwy diogel i wybod fy mod wedi'i gael. Doedd e ddim hyd yn oed yn rhoi dolur. Mae'r staff yn hyfryd yma ac ry’n ni’n cael llawer o hwyl gyda'n gilydd."

 

Dywedodd Beth Zehetmayr, Rheolwr Cartref Gofal Towerhill:

"Mae hwn yn ddiwrnod hynod o hapus i bawb yn Towerhill. Ar ôl y cyfan yr ydyn ni wedi bod drwyddo gyda'n gilydd gallwn weld y golau ar ddiwedd y twnnel."

"Mae Covid-19 wedi dod â heriau i staff a thrigolion na allem fyth fod wedi'u disgwyl ond mae gweld eu gwydnwch a'u penderfyniad i wneud y gorau o fywyd wedi bod yn wych. Rwy'n falch iawn o allu dathlu gyda nhw heddiw. 

 

"Mae ein staff wedi bod yn rhyfeddol drwyddi draw. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod mor galed ond nid ydynt erioed wedi rhoi'r gorau i roi'r ansawdd bywyd gorau posibl i'n trigolion. 

 

"Mae rhwydwaith enfawr o bobl yn cefnogi ein trigolion. Fel rheolwr cartref gofal, mae fy mhrofiad o'r pandemig wedi bod yn un cadarnhaol, gyda phobl yn gweithio'n eithriadol o galed ac yn mynd y tu hwnt i’w cyfrifoldebau i helpu a chefnogi ei gilydd. Rydyn ni wedi cael cefnogaeth wych gan Gyngor Bro Morgannwg, y tîm profi, ein cydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd, a llawer mwy.

 

"Rwy'n gobeithio bod heddiw bellach yn nodi dechrau'r diwedd ac yn gam mawr yn ôl i fywyd normal i'n holl drigolion."

Mae Cartref Porthceri yn y Barri yn gartref arall i groesawu tîm brechu symudol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Dywedodd Marijke Jenkins, Rheolwr Gweithredol Gwasanaethau Preswyl: "Rwyf wrth fy modd yn gweld staff a phreswylwyr yn derbyn y brechlyn COVID-19 gyda'i gilydd. Mae'r 10 mis diwethaf wedi bod mor heriol i bob un ohonom ac mae'n wych cael camau cadarnhaol iawn o'r diwedd i helpu ein trigolion."

 

Dywedodd Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Mae'n wych gweld ein rhaglen frechu yn cael ei chyflwyno ac yn cynnig gobaith i'n cymunedau. Rydym yn gweithio'n agos gydag ystod eang o bartneriaid i sicrhau ein bod yn brechu cymaint o bobl gymwys â phosibl, mor gyflym a diogel â phosibl. 

 

"Mae staff a phreswylwyr cartrefi gofal yn perthyn i'r pedwar grŵp blaenoriaeth uchaf, sef canolbwynt cam cyntaf ein rhaglen frechu. Rydym eisoes wedi brechu mwy na 1,700 o staff cartrefi gofal a bron i 350 o breswylwyr cartrefi gofal drwy ein timau brechu symudol ac rydym wedi ymrwymo i frechu holl breswylwyr cartrefi gofal a staff iechyd a gofal cymdeithasol erbyn diwedd mis Ionawr."