Cost of Living Support Icon

 

Tri o weithwyr Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu cydnabod fel sêr gofal

Mae Joanne Jones a Julia Sky o Dîm Byw'n Iach y Cyngor a Jane Carter o Dechrau'n Deg i gyd wedi cael eu cydnabod fel Sêr Gofal yng Ngwobrau Sêr Gofal Gofal Cymdeithasol Cymru

 

  • Dydd Iau, 29 Mis Gorffenaf 2021

    Bro Morgannwg



Mae Sêr Gofal yn fenter a grëwyd i dynnu sylw at y gweithwyr gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a wnaeth wahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl tra bod y wlad yng nghrafangau’r pandemig.


Ym mis Mehefin 2021, cafodd y Cyngor wahoddiad i enwebu'r gweithwyr gofal cyflogedig y teimlai y dylid eu cydnabod am eu cyfraniadau rhagorol dros y 15 mis diwethaf.


Enwebwyd Jo, Julia a Jane i gyd yn y categori gofal plant, chwarae a gwasanaethau blynyddoedd cynnar. 
Enwebwyd cyfanswm o 120 o weithwyr gofal o bob rhan o Gymru. Yna, gwnaeth panel o feirniaid ddewis deuddeg o Sêr Gofal yr oeddent yn credu eu bod yn haeddu cydnabyddiaeth am y gwaith ysbrydoledig roeddent wedi'i wneud. Ac o'r deuddeg hynny, mae tri yn gweithio i Gyngor Bro Morgannwg. Mwy nag unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru.

Dywedodd y Cynghorydd Ben Gray, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Mae hyn yn newyddion gwych – mae tair gwobr i Gyngor Bro Morgannwg yn dipyn o gamp.  Llongyfarchiadau i Jo, Julia a Jane am y gydnabyddiaeth haeddiannol am eu cyfraniad hynod werthfawr drwy eu gwaith yn ystod y pandemig.


"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Jo a Julia am eu hymroddiad i gefnogi plant a phobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd chwarae, yn enwedig y rhai sy'n elwa o gymorth ychwanegol.


"Mae Jane hefyd wedi dangos gwerthoedd y Cyngor yn ei dull uchelgeisiol ac agored o gefnogi teuluoedd drwy gydol y pandemig ac mae'n gaffaeliad i'n tîm Blynyddoedd Cynnar".

Gallwch ddarllen mwy am y Sêr Gofal hyn a'u gwaith ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.