Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn cymderadwyio cynnig ar gyfer canolfan iechyd newydd a thai fforddiadwy yng nghanol tref y Barri 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cymeradwyo cynigion uchelgeisiol am ddatblygiad defnydd cymysg newydd ym mhen gorllewinol canol tref y Barri.

 

  • Dydd Gwener, 11 Mis Mehefin 2021

    Bro Morgannwg



Mae'r Cyngor yn bwriadu ailddatblygu dau leoliad allweddol yng nghanol y Barri.

 

Gallai Safle Cyfansawdd Pont Gladstone ddod yn gartref i ganolfan feddygol newydd, gan ddisodli’r Clinig Broad Street presennol, yn ogystal â fflatiau ar gyfer pobl hŷn tebyg i gyfleuster gofal ychwanegol Golau Caredig gerllaw.

 

Yna caiff y Clinig Broad Street presennol ei ailddatblygu'n floc o fflatiau fforddiadwy na fydd ganddynt feini prawf oedran ond a fydd yn darparu cartrefi newydd i deuluoedd lleol.

Dywedodd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio: "Mae gan y cynigion hyn y potensial i drawsnewid pen gorllewinol canol tref y Barri.

 

"Rydym eisoes wedi gweld yr effaith y mae datblygiad Golau Caredig wedi'i chael nid yn unig ar fywydau'r bobl hynny sy'n byw yn y fflatiau ond ar naws y rhan honno o'r dref.

 

"Nod y cynigion yw adeiladu ar hyn tra hefyd yn darparu canolfan iechyd fodern newydd a thai fforddiadwy y mae mawr eu hangen. Bydd yr elfen dai yn darparu llety i bobl yng nghanol y gymuned, yn agos at siopau lleol a chyfleusterau eraill, a chyda chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ardderchog.

 

"Fel gyda'n holl brosiectau adfywio bydd y cynllun hwn yn gweld pwyslais ar ddylunio o safon uchel ac ymdeimlad cryf o le, ac wrth gwrs bydd yn cael ei ddatblygu mewn ymgynghoriad â'r gymuned leol."

Mae dwy elfen y cynllun yn amodol ar ganiatâd cynllunio a chyllid prosiect. Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a chyda Llywodraeth Cymru.