Cost of Living Support Icon

 

Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg yn canmol yndrechion gwirfoddolwyr yn ystod pandemig coronafeirws

Vale of Glamorgan Council Leader Neil Moore has again praised volunteers for the contribution they have made since the start of the coronavirus pandemic.

 

  • Dydd Mercher, 02 Mis Mehefin 2021

    Bro Morgannwg



Mae Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, Neil Moore, wedi canmol gwirfoddolwyr am eu cyfraniad ers dechrau pandemig coronafeirws.
 
Heddiw yw diwrnod cyntaf Wythnos y Gwirfoddolwyr ac ni fu ymdrechion yr unigolion hyn erioed yn fwy hanfodol na thros y 15 mis diwethaf.
 
Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Gwirfoddol Morgannwg (GGM) i gefnogi'r rhai sy’n wynebu’r angen mwyaf ers i'r feirws daro.

Ac mae'r Cynghorydd Moore wedi egluro pa mor bwysig fu'r bobl sy'n rhoi o'u hamser i helpu eraill.
 

"Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Wasanaeth Gwirfoddol Morgannwg a'r llu o bobl sy'n gwirfoddoli ar draws y Fro am eu hymdrechion. Ers dros flwyddyn bellach, mae nifer fawr o bobl wedi rhoi anghenion pobl eraill o flaen eu hanghenion eu hunain yn anhunanol.
 
"Maen nhw wedi helpu pobl y mae’r pandemig wedi eu rhoi mewn sefyllfaoedd anodd. Am hynny dylent deimlo'n hynod falch ohonynt eu hunain.
 
"Mae wedi bod yn anhygoel gweld lefel yr ysbryd cymunedol ar hyd a lled y Sir. Mae gwirfoddolwyr wedi chwarae rhan bwysig yn ein bywyd dinesig ers tro byd ac mae’r Cyngor bob tro wedi cydnabod pwysigrwydd hyn. Fodd bynnag, mae'r pandemig wedi mynd â’r gweithgaredd hwn i lefel newydd.
 
"Mae'r gwaith y gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.  Mae hefyd yn caniatáu i'r Cyngor ganolbwyntio ei ymdrechion ar rai o'n preswylwyr mwyaf agored i niwed.  Mae’r math hwn o weithio mewn partneriaeth yn golygu y gallwn gefnogi llawer mwy o bobl.
 
“Y cymorth syml ond hanfodol a roddir gan wirfoddolwyr, megis help gyda siopa, bwyd a chynnig cyfeillgarwch sydd wedi bod mor bwysig.
 
“Mewn cyfnod mor llwm, mae wedi bod yn galonogol iawn gweld cynifer o bobl yn dod ymlaen i helpu i gefnogi ffrindiau, aelodau’r teulu, cymdogion sy’n agored i niwed a hefyd yn aml iawn, pobl nad ydyn nhw erioed wedi cwrdd â nhw ond sydd angen rhywfaint o gymorth.
 
“Mae gwirfoddolwyr, ynghyd â gweithwyr allweddol o sefydliadau megis y Cyngor, wir yn arwyr."

Bu GGM yn rhan hanfodol wrth sefydlu cyfeiriadur Arwyr y Fro’r Cyngor drwy ddarparu rhestr o wasanaethau trydydd parti.
 
Mae Arwyr y Fro yn gronfa ddata chwilio sy'n helpu unigolion sydd angen cymorth i gysylltu â’r bobl sy'n ei gynnig.
 
Gall pobl gofrestru os oes angen cymorth arnynt i siopa bwyd neu i gasglu meddyginiaethau, er enghraifft, fel y gall unigolion neu grwpiau sy'n gallu helpu gyda thasgau o'r fath.
 
Mae’r Cyngor hefyd wedi bod yn gweithio'n agos gydag Age Connects Caerdydd a’r Fro, yn cyfeirio pobl at yr elusen lle bo'n briodol, sydd wedyn yn gwneud cysylltiadau â sefydliadau a all helpu.
 
Mae nifer o grwpiau cymdogaeth wedi'u sefydlu ledled y Fro i helpu aelodau agored i niwed yn eu cymunedau, ac roedd y grwpiau hynny oedd eisoes yn gweithredu wedi cynyddu eu gweithgarwch.
 
Mae GGM yn cefnogi'r grwpiau hyn drwy gynnig cyngor ar amrywiaeth o faterion, megis sut i gadw gwasanaethau'n ddiogel, a hefyd eu cysylltu â sefydliadau elusennol lleol fel Age Connects Caerdydd a’r Fro, Voluntary Concern Dinas Powys, Helping Hands Penarth a mwy.

Dywedodd Paul Warren, Rheolwr Gweithrediadau GGM: "Hoffai Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg ddiolch i'r miloedd o wirfoddolwyr sydd wedi rhoi o'u hamser i achosion y maent yn poeni amdanynt ac am eu hymateb i'r sefyllfaoedd anodd sydd wedi wynebu pobl.  Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn rhoi cyfle i ni i gyd ddiolch i bob gwirfoddolwr, felly cymerwch ran drwy ymgysylltu â'n negeseuon cyfryngau cymdeithasol a gadewch i ni ddathlu eu cymorth a'u cefnogaeth."