Cost of Living Support Icon

 

Gweithiwr yng Nghyngor y Fro yn derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig

Mae un o weithwyr Cyngor Bro Morgannwg wedi derbyn medal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei hymdrechion i fynd i'r afael â'r pandemig coronafeirws.

 

  • Dydd Llun, 14 Mis Mehefin 2021

    Bro Morgannwg



Mae un o weithwyr Cyngor Bro Morgannwg wedi derbyn medal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei hymdrechion i fynd i'r afael â'r pandemig coronafeirws.


Cafodd Melanie Haman y newyddion yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines, a ryddhawyd Ddydd Llun.


Fel Cydlynydd Fforwm Cadernid Lleol de Cymru, mae Melanie wedi bod yn allweddol wrth drefnu'r ymateb rhanbarthol i'r argyfwng.


Mae wedi rheoli amrywiaeth o gyfarfodydd amlasiantaethol, gan ddod â chynrychiolwyr o sefydliadau allweddol at ei gilydd i frwydro yn erbyn y feirws.


Mae'r rhain yn cynnwys Awdurdodau Lleol, Gwasanaethau Brys ac ymatebwyr eraill, megis y Bwrdd Iechyd. 

Dwedodd Melanie: "Rwy’n teimlo’n hynod wylaidd o fod wedi derbyn y wobr hon. Rwy’n ystyried fy hun yn ffodus iawn yn rhanbarth de Cymru fy mod wedi fy amgylchynu gan gydweithwyr ar bob lefel sydd yn broffesiynol ac ymrwymedig ac mae hyn wedi gwneud fy ngwaith yn cydlynu’r ymateb gymaint yn haws. Ni fu pall ar eu brwdfrydedd, eu hegni, eu cefnogaeth na’u hymgysylltiad dros y 18 mis diwethaf ac rydym oll wedi gweithio’n ddiflino i gyrchu ein hunig nod sef gwarchod y cyhoedd."

melaniehamanGyda dros 10 mlynedd o brofiad ym maes cynllunio at argyfwng, daeth Melanie i’w rôl bresennol yn 2018.


Roedd yr achosion o Covid-19 yn cynrychioli sefyllfa na welwyd ei thebyg o'r blaen, ond gwnaeth Melanie fwy na chodi i’r her, gan ddangos proffesiynoldeb i’r eithaf drwy’r cyfan.

 

Dwedodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr, Cyngor Bro Morgannwg: “Mae Melanie wedi gweithio’n ddiflino. Mae ganddi foeseg waith ragorol ac mae'n dod â chlod gwirioneddol iddi hi ei hun ac yn ased i ni yng Nghyngor Bro Morgannwg a rhanbarth de Cymru gyfan. Rwy’n falch iawn bod Melanie wedi cael ei hystyried ac wedi derbyn ei chydnabyddiaeth, nid yn unig fel Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor Bro Morgannwg ond hefyd fel Cadeirydd Grŵp Cydlynu Adferiad SWLRF ac aelod o'r Grŵp Cydlynu Strategol.

"Mae sefydliad, effeithiolrwydd a brwdfrydedd Melanie wedi creu argraff fawr arnaf gydol y pandemig.  Mae'n ymroddedig iawn i wasanaeth cyhoeddus ac mae'n ennyn parch drwy ei hymrwymiad at ddyletswydd gyhoeddus. "Law yn llaw â hyn, mae hi hefyd yn amlwg yn arbenigwr yn ei maes, yn hynod wybodus, ac mae'r wybodaeth hon, ynghyd â'i hymroddiad a'i brwdfrydedd, wedi bod yn amhrisiadwy wrth helpu i lywio de Cymru drwy'r argyfwng presennol."

Ychwanegodd Mr Andrew D. Valentine, Prif Uwcharolygydd Heddlu De Cymru: "Ers ymgymryd â rôl Cadeirydd Grŵp Cydgysylltu Strategol Fforwm Cadernid Lleol De Cymru ym mis Mawrth 2020, rwyf wedi gweithio'n agos gyda Melanie Haman yn rhinwedd ei swydd fel Cydlynydd y Fforwm Cadernid Lleol ac rwyf wedi gwerthfawrogi'n fawr ei hymrwymiad a'i hymroddiad eithriadol i ddiogelu'r cyhoedd.  

"Drwy gydol y pandemig, mae wedi gwneud cyfraniad eithriadol i'r ymateb strategol a thactegol drwy gefnogi gweithgareddau hanfodol yn amrywio o brofion ar gyfer gweithwyr allweddol i drefniadau marwolaethau gormodol.


"Mae ei gwydnwch personol a'i pharodrwydd i helpu wastad wedi bod yn uwch na gofynion ei rôl.  Er gwaethaf amseroedd heriol, mae dull cynnes ac agored Mrs Haman wedi helpu i symbylu ethos cydweithredol cryf ar draws y Fforwm Cadernid Lleol gan wella'r ymateb brys er budd cymunedau ledled de Cymru."