Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 23 Mis Mehefin 2021
Bro Morgannwg
Yn dilyn cyfarfod Cabinet y Cyngor ddydd Llun ac ymgynghoriad cyhoeddus helaeth, bydd parthau parcio i breswylwyr yn unig yn cael eu rhoi ar waith ger Parc Gwledig Cosmeston ym Mhenarth, mewn ardaloedd o amgylch Ynys y Barri a'r Cnap, Middlegate Court yn y Bont-faen a nifer o strydoedd yn Aberogwr.
Bydd penderfyniad o ran a fyddai cyflwyno cynllun tebyg yn briodol wrth ymyl Ysbyty Llandochau yn cael ei wneud cyn bo hir.
Bydd y cynllun hwn hefyd yn atal modurwyr rhag defnyddio'r ardaloedd hyn pan gaiff taliadau eu cyflwyno mewn nifer o feysydd parcio cyfagos.
Bydd y Cyngor yn rhoi trwyddedau parcio yn rhad ac am ddim i drigolion y strydoedd yr effeithir arnynt, a bydd unrhyw un sy’n parcio eu car yn yr ardaloedd hynny yn wynebu camau gorfodi posibl.
Gwnaed y penderfyniad ar ôl holi barn trigolion am y cynigion ac roedd y mwyafrif llethol o blaid cyflwyno’r cynllun.
Dywedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Rwy'n ymwybodol bod nifer o strydoedd o amgylch y Fro wedi bod dioddef dros nifer o flynyddoedd am fod nifer fawr o bobl yn parcio yno wrth ymweld ag atyniadau neu wrth fynd i’r gwaith. Mae hyn wedi ei gwneud yn anodd i unigolion gael mynediad i'w heiddo tra hefyd yn cael effaith negyddol ar lif traffig a diogelwch priffyrdd. "Gan y byddwn yn cyflwyno taliadau newydd ar gyfer parcio oddi ar y stryd cyn bo hir a allai gynyddu nifer y bobl sy’n parcio mewn mannau amhriodol, mae'n bwysig bod cyfleusterau parcio yn cael eu diogelu ar gyfer preswylwyr. Holwyd preswylwyr a oeddent am i ni roi system ar waith i fynd i'r afael â'r broblem hon a'r ateb clir oedd 'oeddent'. "Dyna pam y byddwn yn cyflwyno mesurau rheoli parcio i breswylwyr yn yr ardaloedd dan sylw a byddwn yn ystyried cyn bo hir a yw mesurau tebyg yn addas ar gyfer Llandochau. "Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y rheolaethau yn gwella'r sefyllfa barcio i'r rheiny sy'n byw yn yr ardaloedd h yn tra hefyd yn gwella llif traffig a diogelwch priffyrdd."ill also inform us should we receive calls for similar treatment to other areas.”
Dywedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Rwy'n ymwybodol bod nifer o strydoedd o amgylch y Fro wedi bod dioddef dros nifer o flynyddoedd am fod nifer fawr o bobl yn parcio yno wrth ymweld ag atyniadau neu wrth fynd i’r gwaith. Mae hyn wedi ei gwneud yn anodd i unigolion gael mynediad i'w heiddo tra hefyd yn cael effaith negyddol ar lif traffig a diogelwch priffyrdd.
"Gan y byddwn yn cyflwyno taliadau newydd ar gyfer parcio oddi ar y stryd cyn bo hir a allai gynyddu nifer y bobl sy’n parcio mewn mannau amhriodol, mae'n bwysig bod cyfleusterau parcio yn cael eu diogelu ar gyfer preswylwyr. Holwyd preswylwyr a oeddent am i ni roi system ar waith i fynd i'r afael â'r broblem hon a'r ateb clir oedd 'oeddent'.
"Dyna pam y byddwn yn cyflwyno mesurau rheoli parcio i breswylwyr yn yr ardaloedd dan sylw a byddwn yn ystyried cyn bo hir a yw mesurau tebyg yn addas ar gyfer Llandochau.
"Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y rheolaethau yn gwella'r sefyllfa barcio i'r rheiny sy'n byw yn yr ardaloedd h
yn tra hefyd yn gwella llif traffig a diogelwch priffyrdd."ill also inform us should we receive calls for similar treatment to other areas.”