Cost of Living Support Icon

 

Profion COVID-19 bellach ar gael i bobl yng Nghaerdydd a'r Fro gydag ystod ehangach o symptomau

Gall pobl sy'n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg bellach gael prawf coronafeirws am ddim os oes ganddynt unrhyw un o ystod ehangach o symptomau.

 

  • Dydd Gwener, 12 Mis Mawrth 2021

    Bro Morgannwg



Yn ogystal â thri symptom mwyaf cyffredin Covid-19 - twymyn, peswch parhaus newydd neu golli/newid i’r gallu i arogli neu flasu - mae pobl bellach yn gallu cael prawf os oes ganddyn nhw unrhyw un o’r symptomau sydd ar restr newydd o symptomau.

 

Y rhain yw blinder, myalgia (poenau yn y cyhyrau),  gwddf tost, cur pen, tisian, trwyn yn rhedeg, dim chwant bwyd, cyfog, chwydu, neu ddolur rhydd.Yn unol â chyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru, bydd Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a'r Fro hefyd yn cynnig prawf i’r holl unigolion sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â’r rheiny sydd wedi cael prawf cadarnhaol, yn hytrach na gofyn iddynt aros nes iddynt ddatblygu symptomau, ac yn cynnig profion i unrhyw un y mae eu symptomau wedi newid yn dilyn canlyniad prawf negyddol blaenorol.

 

Mae'r newidiadau'n cael eu gwneud i helpu i ddod o hyd i achosion o amrywiadau newydd o COVID-19 ac i nodi pobl a allai fod mewn perygl o drosglwyddo'r clefyd i bobl eraill heb wybod. Mae ardaloedd byrddau iechyd Bae Abertawe a Hywel Dda eisoes yn profi yn y modd hwn. 

Dywedodd Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd: "Mae nifer yr achosion o COVID-19 wedi bod yn gostwng yn gyson ers mis Ionawr. Er mwyn cadw'r niferoedd yn isel ac er mwyn gallu llacio’r cyfyngiadau cenedlaethol, rhaid i ni ddod o hyd i'r achosion hynny a allai fel arall beidio â chael eu canfod.

"Rydym yn gwybod nad oes gan un o bob tri o bobl sydd â'r feirws unrhyw un o'r tri symptom clasurol ac y gall yr amrywiadau newydd o'r feirws sy'n cylchredeg yng Nghymru achosi i bobl fynd yn sâl mewn gwahanol ffyrdd. Rydym wedi ehangu'r meini prawf ar gyfer cael prawf yn unol â hyn er mwyn sicrhau ein bod yn gallu nodi pob achos a allwn. 

"Ein hamcan erioed fu cadw'r feirws dan reolaeth a dod â'r pandemig i ben. Mae'n arbennig o bwysig, wrth i gyfyngiadau’r cyfnod cloi gael eu llacio, fod unrhyw un a allai fod â’r feirws yn cael ei brofi ac felly wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio mae ein neges yn syml – os oes gennych unrhyw symptomau, cewch brawf."

Gall trigolion Caerdydd a Bro Morgannwg gael prawf yn unrhyw un o'r canolfannau profi rhanbarthol, neu drwy ddefnyddio pecyn prawf cartref. Mae'r canolfannau profi ar gyfer Caerdydd a'r Fro wedi'u lleoli yn:

 

  • Stadiwm Dinas Caerdydd, Lecwydd
  • Rhodfa'r Amgueddfa, canol dinas Caerdydd
  • Neuadd y Sir, Bae Caerdydd
  • Hen Ganolfan Feddygol Parkview, Trelái
  • Canolfan Chwaraeon Colcot, Y Barri

Gallwch drefnu prawf yma: https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws neu drwy ffonio 119.  

 

Wrth drefnu prawf ar-lein oherwydd y rhestr ehangach o symptomau dylai trigolion ddewis yr opsiwn "gofynnodd eich cyngor lleol i chi gael prawf".

Nid yw'r canllawiau cenedlaethol sy'n ymwneud â symptomau Coronavirus i edrych amdanynt wedi newid. Mae'n arferol i Dimau Rheoli Digwyddiadau rhanbarthol gyfleu trothwy gwahanol ar gyfer cael prawf yn seiliedig ar amgylchiadau yn lleol.

 

Cwestiynau Cyffredin profi ehangach