Cost of Living Support Icon

 

Cabinet y Cyngor yn cymeradwyo cynlluniau ar gyfer Tai ar gyfer Pobl Hŷn gyda Chanolfan Gofal ym Mhenarth

Mae canolfan breswyl Newydd ar y gweill ar  gyfer Penarth a fydd yn cyfuno llety i bobl hŷn â chyfleusterau iechyd ar y safle.

 

  • Dydd Llun, 22 Mis Mawrth 2021

    Bro Morgannwg

    Penarth



Yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Bro Morgannwg a Wales & West Housing (WWH)  a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mae safle 3.6 erw ger Myrtle Close yn y dref wedi'i ddewis ar gyfer y datblygiad.


Byddai wedi'i leoli ochr yn ochr â Oak Court, cyfleuster preswyl WWH i bobl hŷn sydd eisoes yn bodoli, a Thŷ Dewi Sant, cartref gofal sy'n deall dementia a weithredir gan y Cyngor.


Gyda'i gilydd, byddant yn helpu i greu amgylchedd cymunedol sy'n cynnwys tai, gofal cymdeithasol a darpariaeth iechyd. 

 

Byddai'r Cyngor yn gyfrifol am gyflawni elfen byw'n annibynnol y cynllun i bobl hŷn, gyda WWH yn adeiladu bloc preswyl Gofal Ychwanegol.  

Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau Adeiladu: "Mae'r prosiect hwn yn addo bod yn enghraifft wych o'r hyn y gall asiantaethau sy'n gweithio mewn partneriaeth ei gyflawni. 


Yn ddatblygiad modern, integredig, nid yn unig y bydd yn darparu llety o ansawdd uchel i aelodau hŷn ein cymuned, bydd y cyfleusterau ar y safle hefyd yn cynnig mwy o gyfleustra i breswylwyr, gan ychwanegu at safon eu bywyd.

 
"Bydd lleoli'r ganolfan wrth ymyl darpariaeth i bobl hŷn sy’n bodoli eisoes yn cyflawni swyddogaeth gymdeithasol bwysig drwy helpu i greu ymdeimlad o gymuned i'r rhai sy'n byw yno."


Dywedodd Joanna Davoile, Cyfarwyddwr Datblygu WWH:  "Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ddatblygu cartrefi gofal ychwanegol modern i bobl hŷn ym Mhenarth. 

 

"Hwn fydd cynllun gofal ychwanegol cyntaf WWH yn Ne Cymru, ond y chweched yng Nghymru. Gobeithiwn y bydd hyn yn brosiect blaenllaw ar gyfer darpariaethau gofal ac iechyd i bobl hŷn yn yr ardal. Rydym yn bwriadu darparu tai o ansawdd lle gall pobl hŷn fyw'n annibynnol mewn fflat gyda'u drws ffrynt eu hunain ond eto gyda’r gwasanaethau iechyd, gofal a chymorth sydd eu hangen arnynt ar y safle."