Cost of Living Support Icon

 

Y cyngor yn addo mynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil

I gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Dileu Gwahaniaethu ar Sail Hil ar 21 Mawrth, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi addo ei gefnogaeth i ymgyrch Dim Hiliaeth Cymru.

 

  • Dydd Llun, 22 Mis Mawrth 2021

    Bro Morgannwg



Mae Dim Hiliaeth Cymru yn ymgyrch a ffurfiwyd gan Gyngor Hil Cymru ac sy'n galw ar bob sefydliad ac unigolyn i ymrwymo i bolisi dim goddefgarwch.  

 

Ar ôl llofnodi'r addewid, gwnaeth Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Neil Moore, ddatganiad o fwriad sy'n darllen: 

"Mae Cyngor Bro Morgannwg yn croesawu ehangder ac amrywiaeth traddodiad, cred a diwylliant y gymuned. Mae'n ceisio creu, cynnal a hyrwyddo cymuned lle mae pob person yn cael ei drin yn deg ac yn gyfartal waeth beth fo'i hil.

 

“Mae’r Cyngor yn cadarnhau ei ymrwymiad at bolisi o gyfle cyfartal mewn cyflogaeth ac wrth ddarparu gwasanaethau.”

Mae'r ymrwymiadau a nodwyd gan y Cyngor yn y polisi Dim Goddefgarwch yn cynnwys:

 

  • Byddwn yn sefyll yn erbyn hiliaeth ac yn hyrwyddo cymdeithas fwy cynhwysol a chyfartal i bawb.
  • Ni fyddwn yn goddef rhagfarnu, gwahaniaethu, aflonyddu, erlid, cam-drin, na thrais hiliol yn erbyn unrhyw unigolyn.
  • Byddwn yn sefyll mewn undod, yn dod at ei gilydd, ac yn dweud na wrth hiliaeth, yn ei holl ffurfiau.
  • Byddwn yn hyrwyddo perthynas hiliol dda rhwng pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol yng Nghyngor Bro Morgannwg.
  • Byddwn yn hyrwyddo cyfle cyfartal a theg i bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol gael dyrchafiad.
  • Byddwn yn cael gwared ar wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth a chamdriniaeth hiliol anghyfreithlon. 

Mae’r Cyngor hefyd wedi ymrwymo at adolygu cerfluniau, henebion, enwau strydoedd ac enwau adeiladau er mwyn sicrhau eu bod yn cynrychioli gwerthoedd pobl leol a rhai Cyngor modern a chynhwysol. 

 

Mae hyn yn ganlyniad i fudiad Mae Bywydau Du o Bwys, a’i gwnaeth hi’n amlwg bod angen adolygu pethau sy’n coffáu unigolion er mwyn sicrhau eu bod yn parhau'n briodol.  

 

Gwahoddir trigolion Bro Morgannwg i awgrymu coffâd y teimlant y dylid ei adolygu.  

 

Yna bydd pwyllgor yn cyfarfod i adolygu unrhyw gyflwyniadau ac ystyried a ddylid rhoi camau pellach ar waith.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Moore:

  "Rwy'n falch o addo fy nghefnogaeth i ymgyrch Dim Hiliaeth Cymru."Does dim lle i wahaniaethu o unrhyw fath yn ein cymunedau a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i fynd i'r afael ag ef.

 

“Fel sefydliad, rydym yn parhau’n gwbl ymrwymedig i egwyddor cydraddoldeb waeth beth fo’r hil, oedran, rhyw, crefydd, anabledd neu gyfeiriadedd rhywiol a byddwn yn parhau i fynd i’r afael â rhagfarn o bob math.”