Cost of Living Support Icon

 

Cymorth ariannol ar gael yn ystod y pandemig

MAE Cyngor Bro Morgannwg yn tynnu sylw at yr ystod o gymorth sydd ar gael i breswylwyr a allai fod yn wynebu anawsterau ariannol yn ystod pandemig y coronafeirws.

 

  • Dydd Iau, 18 Mis Mawrth 2021

    Bro Morgannwg



Gall nifer o daliadau gael eu hawlio gan y rhai sydd o dan bwysau ariannol, ac mae hefyd yn bosibl lleihau biliau mewn rhai achosion.


Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn darparu dau fath o grant nad oes angen eu had-dalu, Taliad Cymorth Brys (TCB) a Thaliad Cymorth Unigol (TCU).


Mae TCB wedi'i gynllunio i helpu i dalu am hanfodion, fel bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio brys mewn sefyllfaoedd lle mae unigolyn yn profi caledi ariannol. 


Gallai hyn fod oherwydd eu bod wedi colli eu swydd neu wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am y taliad cyntaf.


Mae'r TCU yn grant i helpu person i fyw'n annibynnol yn ei gartref neu eiddo y mae'n symud iddo.


Gellir ei ddefnyddio i dalu am oergell, popty, peiriant golchi neu 'nwyddau gwyn' a dodrefn cartref eraill, fel gwelyau, soffas a chadeiriau.


Dyma rai enghreifftiau o gymorth arall sydd ar gael:


• Cynllun Gweithredu Cynyddu Incwm Tlodi Plant - nod hyn yw gwneud pobl yn ymwybodol o gyfleoedd i gynyddu incwm aelwydydd drwy ddarparu cyngor cyfrinachol a sicr o ansawdd ar eu hawliau budd-daliadau.

 

• Credydau a hwb pensiwn - budd i bobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth sy'n cynyddu incwm.


• Gostyngiad y Dreth Gyngor - gostyngiad llwyr neu rannol ar gael i'r rhai ar incwm isel a budd-daliadau.


• Taliad Tai Yn ôl Disgresiwn – ar gael os yw rhywun yn talu rhent a bod ganddo ddiffyg yn ei Fudd-dal Tai neu Gostau Tai Credyd Cynhwysol. 


• Cynllun Nyth Llywodraeth Cymru – mae hwn yn cynnig amrywiaeth o gyngor diduedd ar y gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim sydd ar gael, a allai gynnwys boeler newydd, gwres canolog neu insiwleiddio.


Dywedodd y Cynghorydd Ben Gray, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod anodd i bawb, gyda llawer o drigolion yn wynebu problemau ariannol oherwydd y pandemig coronafeirws.


“Fodd bynnag, mae nifer o hawliau ariannol ar gael i'r bobl hynny sydd wedi dioddef, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, i helpu gyda chostau byw.  

 

"Mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud pobl yn ymwybodol o beth yn union sydd ganddynt hawl iddo, felly does neb yn methu allan.”