Cost of Living Support Icon

 

CDP am ddim i yrwyr Tacsis a CLlP yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio menter Cyfarpar Diogelu Personol (CDP) am ddim i bob gyrrwr tacsi a cherbyd llogi preifat (CLlP) trwyddedig yng Nghymru.

 

  • Dydd Llun, 08 Mis Mawrth 2021

    Bro Morgannwg



 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi lansio menter cyfarpar diogelu personol am ddim ar gyfer pob gyrrwr cerbyd tacsi a cherbyd llogi preifat (CLlP) trwyddedig yng Nghymru, gan gynnwys gyrwyr Uber. Mae'r fenter hon wedi'i chynllunio i:

  • cydnabod y cyfraniad pwysig y mae gyrwyr tacsis a cherbydau llogi preifat yn ei wneud i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru

  • sicrhau bod y dull teithio hwn mor ddiogel â phosibl, i yrwyr a theithwyr

  • sicrhau bod y sector hwn yn alinio’n agosach â gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus eraill yng Nghymru.

 

 

Bydd y pecyn yn cynnwys gwerth chwe mis o gyfarpar diogelu personol a deunyddiau glanhau:

  • 5 litr o hylif diheintio pob pwrpas

  • 1 botel chwistrellu

  • 6 x ewyn diheintio dwylo (500ml yr un)

  • 2 x pecyn o glytiau wedi'u plygu (50 ym mhob pecyn)

  • 2 x masg wyneb gradd feddygol y gellir eu golchi

  • 1x blwch o 50 o orchuddion wyneb tafladwy

  • 6 x pecyn o weips Detox (80 y pecyn)

 

Gwneud Cais Ar-lein

Gall gyrwyr tacsis a cherbydau llogi preifat yng Nghymru hawlio pecyn CDP a deunyddiau glanhau cerbydau o ansawdd uchel am ddim, wedi ei ariannu gan Llywodraeth Cymru.

 

I fod yn gymwys, rhaid i chi fod yn yrrwr tacsi neu gerbyd llogi preifat sydd wedi'i drwyddedu yng Nghymru.

 

Mae'r broses ymgeisio wedi'i hymestyn tan 26 Mawrth 2021 ac mae pecynnau wedi'u cyfyngu i un fesul unigolyn. Bydd pecynnau'n cael eu dosbarthu am ddim i gyfeiriad dosbarthu enwebedig y gyrrwr.

 

Gwnewch gais ar-lein