Cost of Living Support Icon

 

Ysgol gynradd newydd y Bont-faen yn cael cymeradwyaeth gan Gabinet y Cyngor

Mae Cabinet Cyngor Bro Morgannwg wedi cymeradwyo cynlluniau i adeiladu ysgol gynradd newydd gwerth £5.4 miliwn ar safle Ysgol Gyfun y Bont-faen.

 

  • Dydd Llun, 22 Mis Mawrth 2021

    Bro Morgannwg

    Cowbridge



Yn agor ym mis Medi 2022, bydd yr adeilad newydd yn darparu ar gyfer 210 o ddisgyblion cynradd ac yn creu 48 o leoedd meithrin rhan-amser.


Bydd hefyd yn creu ysgol 'pob oed' ar gyfer y Bont-faen, gan gefnogi plant rhwng tair a 19 oed.


Bydd adeilad yr ysgol yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, prif neuadd ar gyfer chwaraeon a bwyta, swyddfeydd ar gyfer uwch staff a gweinyddwyr, ystafell staff ac ardaloedd egwyl. 


O fewn y tiroedd mae cynlluniau hefyd ar gyfer mannau chwarae allanol, ardal gemau aml-ddefnydd (AGADd) ac ardaloedd bywyd gwyllt.


Bydd yr ysgol yn cael ei chynllunio i fod yn garbon sero-net, gan gefnogi nod y Cyngor i gyflawni hynny fel sefydliad erbyn 2030.


Bydd yr holl gyllid yn cael ei ddarparu gan y Cyngor, yn bennaf drwy gyfraniadau Adran 106 a sicrhawyd o ddatblygiadau lleol ar gyfer cyfleusterau addysgol.

 

Cowbridge Concept (002)

Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gydag amrywiaeth o randdeiliaid i gwblhau dyluniad yr ysgol, a fydd yn amodol ar gymeradwyaeth gynllunio.  


Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, y Cynghorydd Lis Burnett: "Mae'r datblygiad hwn wedi'i gynllunio i ateb y galw cynyddol am addysg gynradd yn y Bont-faen, a grëwyd gan ddatblygiadau tai arfaethedig, a bydd yn darparu amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf i ddisgyblion.


"Mae'n rhan o gyfres eang o brosiectau i uwchraddio cyfleusterau addysgol ar draws y Sir o dan faner Ysgolion yr 21ain Ganrif.


"Dyma'r rhaglen waith fwyaf uchelgeisiol erioed yn y Fro, un a ddylai olygu bod gan ein disgyblion y llwyfan gorau i lwyddo."