Cost of Living Support Icon

 

Caffi newydd i agor ym Mhafiliwn Pier Penarth

MAE Cyngor Bro Morgannwg yn agor caffi ym Mhafiliwn Pier Penarth wrth i gynlluniau ar gyfer yr adeilad eiconig ddechrau datblygu. 

 

  • Dydd Iau, 25 Mis Mawrth 2021

    Bro Morgannwg



Bydd y caffi, a weithredir gan Gwmni Arlwyo Big Fresh y Cyngor, yn cynnig amrywiaeth o ddiodydd, gan gynnwys cymysgeddau coffi brand y cwmni, a bwydlen sy'n cynnig cynhwysion lleol lle bo hynny'n bosibl. 

 

I ddechrau, bydd eitemau ar gael ar sail tecawê yn unig, gyda lle i gwsmeriaid y tu mewn pan fydd y cyfyngiadau'n caniatáu.

 

freshcafe1

Bydd y caffi'n mabwysiadu polisi dim plastigau untro ac mae gwaith uwchraddio helaeth wedi'i wneud yn barod i groesawu cwsmeriaid o ddydd Gwener.


Fel rhan o hyn, caiff y meinciau a byrddau y tu allan i'r caffi eu symud i'w hadnewyddu cyn bo hir cyn eu hailosod unwaith y bydd hyn wedi'i gwblhau. 


Sefydlwyd y Cwmni Arlwyo Big Fresh yn 2019 i fod yn gorff  masnachol hunangynhaliol yn darparu prydau maethlon i ddisgyblion ysgolion y Fro heb ddibynnu ar gymhorthdal y Cyngor. 

 

Hefyd yn darparu ar gyfer digwyddiadau a chynulliadau awyr agored drwy lori Airstream symudol, dyma fydd y fenter ddiweddaraf i'r cwmni.

 

Mae rhedeg y caffi fel hyn o fudd uniongyrchol i ddisgyblion gan y bydd yr holl wargedion a gynhyrchir yn mynd tuag at greu ciniawau ysgol iach o'r ansawdd gorau. Camodd y Cyngor i’r adwy yn ddiweddar i reoli Pafiliwn Pier Penarth ar ôl i’r gweithredwyr blaenorol, Penarth Arts and Crafts Ltd (PACL), ildio eu prydles.  

freshcafe2Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Adfywio ac Addysg: "Mae llawer o waith cynnal a chadw ac adnewyddu eisoes wedi digwydd ers i'r Cyngor ymgymryd â'r gwaith o reoli'r pafiliwn. Agor y caffi hwn yw'r cam nesaf yn ein cynllun i ailsefydlu'r adeilad hwn fel cyrchfan gymunedol.

 

"Mae gennym hefyd ddigon o syniadau eraill ar y gweill, a gall pobl rannu eu barn ar sut y gall y pafiliwn weithredu i'r gymuned drwy ymweld â gwefan y Cyngor neu gymryd rhan yn yr ymgynghoriad wrth ymweld â'r caffi ar y pier ei hun. 

 

"Yn ogystal â chynnig amrywiaeth o fwyd a diod o safon uchel yn y caffi, bydd pob ceiniog sy'n cael ei gwario yno o fudd uniongyrchol i blant lleol gan y bydd elw'n cael ei fuddsoddi yn eu gwasanaeth prydau ysgol."