Cost of Living Support Icon

 

Manwerthwyr Penarth yn dod at ei gilydd i lansio stryd fawr ddigidol gyntaf y Fro

Mae manwerthwyr mentrus ar draws Penarth wedi ymuno i ddatblygu'r Stryd Fawr ddigidol gyntaf yn y Fro, gyda 52 o fusnesau Penarth eisoes wedi cofrestru a mwy yn ymuno bob dydd.

 

  • Dydd Mawrth, 09 Mis Mawrth 2021

    Bro Morgannwg



Wrth i strydoedd mawr ledled y DU wynebu heriau cynyddol, mae manwerthwyr yn chwilio am atebion arloesol i barhau i fasnachu a chynnal y berthynas hollbwysig honno gyda'u cwsmeriaid.
 
Drwy ymuno fel hyn a datblygu llwyfan masnachu ar gyfer manwerthwyr Penarth gan ddefnyddio'r safle siopa digidol ShopAppy, mae manwerthwyr Penarth yn dod â'r stryd fawr i gartrefi eu trigolion.
 
Mae hyn nid yn unig yn cynnig ateb gwych i gefnogi eu cwsmeriaid ar yr adeg anodd hon, ond mae hefyd yn caniatáu i fasnach barhau er mewn ffordd newydd ac arloesol.
 
Datblygwyd y cynllun gan Grŵp Busnes Penarth a lwyddodd i sicrhau £12,000 o gyllid drwy Gyngor Bro Morgannwg i dreialu'r cynllun yn ystod ei flynyddoedd cyntaf yn masnachu.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, y Cynghorydd Lis Burnett: "Rydym yn falch iawn o gefnogi Grŵp Busnes Penarth i dreialu lansiad ShopAppy yn y sir.

"Wrth i ni ddechrau'r adferiad economaidd o’r coronafeirws, mae'n bwysicach nag erioed chwilio am ffyrdd o gefnogi ein siopau a'n busnesau lleol. Gobeithiwn y bydd treialu cynlluniau arloesol digidol fel ShopAppy Penarth yn cefnogi ein heconomi leol ymhellach drwy wella gwerthiant a denu mwy o gwsmeriaid yn y farchnad sy'n newid.

"Mae Grŵp Busnes Penarth bob amser wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth gydweithio fel grŵp i wynebu heriau gyda'n gilydd, a'n gobaith yw y bydd hyn yn dod â budd gwirioneddol i fusnesau lleol a chymuned Penarth."

Dywedodd Angelina Hall, Cadeirydd Grŵp Busnes Penarth; "Rydym wrth ein bodd o allu cyflwyno ShopAppy i'n cwsmeriaid ym Mhenarth. Mae'n ddelfrydol i bobl nad ydynt yn gallu galw heibio'r stryd fawr neu i’r rheiny y mae'n well ganddynt siopa ar-lein. Mae'n system hawdd ei defnyddio sy'n caniatáu i geidwaid siopau gofrestru a lanlwytho eu cynnyrch mewn munudau, ac mae'n cynnig system dalu gyflym a syml i gwsmeriaid.

"Mae'r gefnogaeth rydyn ni wedi'i chael hyd yma wedi bod yn aruthrol. Gallwch brynu popeth o doesenni jam i fodrwy diemwnt! Mae gennym bobyddion, caffis a bwytai, gemyddion, siopau melysion, siopau papurau newydd, siopau anrhegion, bwtîcs, delicatessens, siop drydanol, siop flodau a gwerthwyr pysgod, yn ogystal â llawer o wasanaethau manwerthu lleol sydd eisoes wedi cofrestru gyda mwy i ddod yn fuan iawn."


Anogir cwsmeriaid i edrych ar www.shopappy.com/Penarth i weld beth sydd ar gael nawr a beth sy'n dod yn fuan.
 
Mae ShopAppy yn un o nifer o gynlluniau a lansiwyd gan y Cyngor i gefnogi ein Stryd Fawr
yn ystod y cyfnod heriol hwn.
 
Mae cynlluniau Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â ffrydiau ariannu eraill wedi arwain at ddatblygu cyfres o brosiectau sydd â'r nod o gefnogi pob un o'n hardaloedd siopa wrth i ni edrych ymlaen at fesurau adfer ar ôl Covid.
 
Mae cynlluniau eraill yn cynnwys cyflwyno 'parcdiroedd' ym Mhenarth, mesurau gwella seilwaith fel baneri, raciau beiciau a mesurau gwella gweledol yn y Barri yn ogystal â chynlluniau goleuadau a thirlunio i wella seilwaith yn y Bont-faen a Llanilltud Fawr.