Cost of Living Support Icon

 

Cynghori disgyblion a staff mewn saith o ysgolion i hunanynysu

Mae grwpiau o ddisgyblion a staff mewn saith o ysgolion ym Mro Morgannwg wedi cael eu cynghori i hunanynysu.

 

  • Dydd Llun, 15 Mis Mawrth 2021

    Bro Morgannwg



Mae Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a’r Fro wedi cynghori grwpiau swigod ym mhob un o’r saith o ysgolion canlynol i hunanynysu.

 

  • Ysgol Gynradd Tregatwg, Y Barri
  • Ysgol Gynradd Colcot, Y Barri
  • Ysgol Gynradd Evenlode, Penarth
  • Ysgol Gynradd Llandochau, Llandochau
  • Ysgol Gynradd y Bont-faen, Y Bont-faen

Rhoddwyd y mesur hwn ar waith ar ôl i nifer fach o achosion positif gael eu cofnodi yng Nghanolfan Adnoddau Llandochau yr wythnos diwethaf.

 

Mae'r tîm Profi, Olrhain, Diogelu rhanbarthol yn gweithio'n agos gyda'r ysgolion unigol a Chyngor Bro Morgannwg i reoli'r digwyddiad a chynnig cymorth i ddisgyblion, rhieni a staff. Nid yw disgyblion na staff y tu allan i'r grwpiau swigod dan sylw mewn perygl.

Dywedodd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio: "Mae hwn yn fesur sy'n cael ei roi ar waith i sicrhau bod cyn lleied o effaith â phosibl ar ysgolion. Gyda mwy o ddisgyblion yn dychwelyd i'n hysgolion ac amrywiolion Covid-19 newydd ar led mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn gweithredu'n gyflym ac yn ofalus. 

 

"Mae gan bob ysgol brosesau cadarn ar waith i ymateb i ddigwyddiadau fel hyn ac mae defnyddio swigod cyswllt wedi sicrhau y bydd pob disgybl arall yn gallu mynd i’r ysgol yn ôl y bwriad, heb amharu ymhellach ar ddysgu wyneb yn wyneb. 

 

"Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae o ran sicrhau bod disgyblion yn dychwelyd i'r ystafell ddosbarth yn llwyddiannus. Ni ddylai rhieni anfon eu plant i'r ysgol os oes ganddynt unrhyw symptomau Covid-19. Yn hytrach, dylai'r aelwyd gyfan aros adref a chael prawf."  

 

Gall pobl sy'n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg bellach gael prawf coronafeirws am ddim os oes ganddynt unrhyw un o ystod ehangach o symptomau. Yn ogystal â thri symptom mwyaf cyffredin Covid-19 - twymyn, peswch parhaus newydd neu golli/newid y gallu i arogli neu flasu - mae pobl bellach yn gallu cael prawf os oes ganddyn nhw unrhyw un o’r canlynol.

 

  • Blinder
  • Myalgia (poen yn y cyhyrau)
  • Dolur gwddw
  • Cur pen
  • Tisian
  • Trwyn sy’n rhedeg
  • Colli’r awydd i fwyta
  • Cyfog
  • Chwydu
  • Dolur rhydd

Nod y dull estynedig hwn yw helpu i ddod o hyd i achosion o amrywiadau COVID-19 newydd a nodi’r bobl hynny a allai fod mewn perygl o drosglwyddo'r clefyd i bobl eraill heb yn wybod.

 

Mae'r saith ysgol wedi cysylltu â rhieni neu warcheidwaid yr holl ddisgyblion yr effeithir arnynt yn uniongyrchol.  Bydd rhagor o fanylion am y trefniadau ar gyfer pob ysgol yn cael eu cyhoeddi ar wefan Cyngor Bro Morgannwg.

 

Mae’n bosib archebu profion coronafeirws ar-lein neu drwy ffonio 119. Wrth drefnu prawf ar-lein oherwydd y rhestr ehangach o symptomau dylai trigolion ddewis yr opsiwn "gofynnodd eich cyngor lleol i chi gael prawf."

 

Archebu prawf