Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn nodi Diwrnod Cofio Cenedlaethol Covid

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn ymuno â phobl ledled y Wlad i nodi Diwrnod Cofio Cenedlaethol cyntaf Covid.

 

  • Dydd Mawrth, 23 Mis Mawrth 2021

    Bro Morgannwg



Mae heddiw'n flwyddyn union ers i Gymru ddechrau ei chyfnod clo cyntaf oherwydd y coronafeirws a'r dyddiad y bydd digwyddiadau coffáu blynyddol yn cael eu cynnal.


Ar gyfer y cyntaf o'r digwyddiadau hyn, bydd 40 o adeiladau eiconig ledled Cymru yn cael eu goleuo’n felyn am 5pm, a bydd dwy funud o dawelwch yn cael ei gynnal am hanner dydd, fel gweithred goffa i'r rhai sydd wedi colli eu bywydau i Covid.


Bydd Pafiliwn Pier Penarth y Cyngor, Cysgodfan y Gorllewin, Twnnel Hood Road a Neuadd y Dref y Barri i gyd yn cael eu goleuo yn y lliw hwnnw er mwyn dangos parch.

 

Memorial bench and trees

Mae perllan goffa o goed ceirios, eirin ac afalau yn cael ei phlannu ym Mharc Gwledig Porthceri, lle mae mainc goffa hefyd wedi'i gosod, i bobl ymweld â hi a myfyrio ynghylch y pandemig.


Bydd rhoddion o goed hefyd yn cael eu rhoi i gynghorau tref a chymuned yn y Fro pan fydd y tymor plannu yn ailddechrau yn yr hydref.


Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, "Mae'r byd wedi newid dros y 12 mis diwethaf mewn ffyrdd na allem fyth fod wedi'u rhagweld wrth i Covid-19 greu cythrwfl ledled y byd. 


"Ar ddechrau 2020, allai'r un ohonom fod wedi dychmygu beth oedd o’n blaenau ni ac i ba raddau y byddai hynny’n effeithio ar ein bywydau. 


"Mae’r coronafeirws wedi effeithio'n sylweddol ar bob un ohonom ac, yn anffodus, mae llawer ohonom wedi colli anwyliaid i'r clefyd ofnadwy hwn.


"Mae rheswm dros fod yn obeithiol am y dyfodol, gyda rhaglen frechu helaeth yn cynnig gobaith y gall bywyd ddychwelyd yn nes at normalrwydd cyn bo hir.

 

Orchard - close up of trees

"Ond, er ein bod yn edrych ymlaen gyda gobaith, mae'n bwysig hefyd ein bod yn cofio cost ddynol y pandemig."


Dywedodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr, Cyngor Bro Morgannwg, "Mae miloedd o bobl wedi colli eu bywydau i Covid-19 yng Nghymru, gyda llawer mwy yn mynd yn ddifrifol sâl, ac ni ddylid byth anghofio'r ffaith honno.


"Fel arwydd o barch, byddwn yn cynnal dwy funud o dawelwch ac yn goleuo adeiladau'r Cyngor yn felyn heddiw.


"Rydym hefyd yn bwriadu creu coffâd mwy parhaol ym Mharc Gwledig Porthceri a byddwn yn darparu coed i'n cynghorau tref a chymuned fel y gallant gynllunio ar gyfer eu ffyrdd eu hunain o goffáu."