Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn ystyried barn y gymuned ar ddefnyddiau ar gyfer safle Marchnad Da Byw’r Bont-faen

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cymryd amser i ystyried barn y gymuned yn llawn cyn datblygu unrhyw gynlluniau ar gyfer hen safle Marchnad Da Byw’r Bont-faen.

 

  • Dydd Iau, 20 Mis Mai 2021

    Bro Morgannwg

    Cowbridge



Mewn cyfarfod o Gabinet y Cyngor ym mis Chwefror, penderfynwyd y dylai'r tir hwn yn ardal Butts y dref gael ei farchnata at ddefnydd manwerthu bwyd a'i ddarparu ar gyfer parcio cyhoeddus.

 

Fodd bynnag, ers hynny gwnaed amrywiaeth o gynrychiolaethau gan Aelodau Ward lleol, busnesau, trigolion a grwpiau cymunedol, y mae'n rhaid eu hystyried yn llawn. 

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Adfywio ac Addysg: "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i adfywio hen safle'r Farchnad Da Byw yn y Bont-faen ac mae denu manwerthwr bwyd i'r lleoliad hwn yn y dyfodol yn parhau i fod yn bosibilrwydd. 

 

"Fodd bynnag, mae barn y gymuned ar y pwnc hwn yn bwysig a rhaid ei hasesu'n ofalus. 

 

"Er mwyn sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â'r camau cywir, mae'n ddoeth cymryd amser i fyfyrio ar rai defnyddiau posibl amgen ar gyfer y tir hwn cyn penderfynu ar y ffordd orau ymlaen. 

 

"Hoffwn ddiolch i'r unigolion sydd wedi rhoi o'u hamser i rannu eu syniadau gyda ni. 

 

"Yn y pen draw, y defnydd cywir ar gyfer y tir fydd yr un sydd o’r budd mwyaf i'r Bont-faen, ac sydd hefyd yn hyfyw, yn fforddiadwy, yn gyflawniadwy ac yn darparu adfywiad ar gyfer y rhan bwysig hon o'r dref. 

 

"Dyma fydd y ffactorau sy'n llywio ein penderfyniad."