Cost of Living Support Icon

 

Bwriad i gyflwyno cynnig am arian i roi cynllun atal llifogydd ar waith yn Ninas Powys

Cafodd uwch swyddogion y Cyngor gyfarfod calonogol gyda'u cymheiriaid yn Llywodraeth Cymru yr wythnos hon i drafod trefniadau ariannu posibl i ddiogelu hyd at 200 o eiddo yn Ninas Powys rhag effeithiau llifogydd yn y dyfodol.  

 

  • Dydd Llun, 10 Mis Mai 2021

    Bro Morgannwg



Cafodd mwy na 100 o eiddo yn Ninas Powys a Sili eu heffeithio gan lifogydd mewnol ar 23 Rhagfyr 2020 ac mae'r Cyngor eisoes wedi sicrhau £149,270 gan Lywodraeth Cymru drwy 'grant rheoli perygl llifogydd ar raddfa fach' i fwrw ymlaen â rhoi mesurau diogelu eiddo ar waith mewn 22 eiddo unigol yn ardal Sili. Bydd hyn yn lleihau'r risg y bydd llifddwr yn mynd i mewn i gartrefi gan ddefnyddio cyfuniad o gynhyrchion fel drysau llifogydd. 

 

Mae swyddogion wrthi’n cwblhau adroddiad brys i Lywodraeth Cymru yn manylu ar yr ymchwiliadau i'r llifogydd diweddar ym mis Rhagfyr y llynedd. Bydd yr adroddiad yn cynnwys manylion penodol yn ymwneud â hanes llifogydd, dadansoddiad o'r glaw a gafwyd ac achosion posibl neu debygol a arweiniodd at y llifogydd dan sylw yn ogystal â nodi cyfrifoldebau perthnasol yr awdurdodau rheoli risg a rôl unrhyw awdurdod arall.  Gall rhoi mesurau diogelu ar waith mewn eiddo unigol gynnig sicrwydd a diogelwch ychwanegol i breswylwyr, y mae rhai ohonynt yn byw mewn ofn bob tro y mae hi’n bwrw glaw yn drwm, fodd bynnag, nid yw pob eiddo o reidrwydd yn addas ar gyfer gweithredu mesurau o'r fath. 

Dwedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Mae effeithiau llifogydd yn ddinistriol ac mae'r Cyngor yn awyddus i weithio gydag awdurdodau rheoli risg perthnasol i leihau'r perygl y bydd llifogydd yn effeithio ar eiddo domestig yn yr ardaloedd hyn yn y dyfodol. Ymddengys mai glaw trwm iawn dros gyfnod byr a dŵr ffo canlyniadol o ddalgylchoedd amaethyddol sy'n ffinio â datblygiadau preswyl yw'r prif reswm dros y llifogydd yn Sili, tra ymddengys fod llifogydd yn Ninas Powys yn ymwneud yn bennaf â chapasiti afon Llangatwyn. Bu ein swyddogion yn llwyddiannus wrth wneud cais i gynllun 'grant rheoli perygl llifogydd ar raddfa fach' Llywodraeth Cymru ar gyfer y llifogydd yn Sili i roi mesurau diogelu ar waith mewn eiddo ac, er nad yw'r llifogydd yn Ninas Powys yn ymwneud ag ased y mae'r Cyngor yn gyfrifol amdano ac yn cynnwys mwy na 100 o eiddo, maent bellach wedi cael sêl bendith swyddogion Llywodraeth Cymru i gyflwyno cais am arian ar gyfer achos busnes amlinellol sydd â'r nod o fwrw ymlaen â gwaith diogelu tebyg mewn eiddo yn Ninas Powys mewn partneriaeth â CNC. Fy ngobaith yw, os bydd y cais yn llwyddiannus, y byddai'n diogelu rhywfaint ar eiddo preswylwyr Dinas Powys tra bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried ac yn rhoi atebion tymor hwy ar waith i leihau'r perygl o lifogydd yn yr ardal a achosir gan yr afon."

Disgwylir i'r Cyngor gyflwyno ei gais i Lywodraeth Cymru am arian yng Ngwanwyn/haf 2021.