Cost of Living Support Icon

 

Pythefnos Gofal Maeth yn taflu goleuni ar waith gofalwyr maeth y Fro

Fel rhan o ymgyrch hybu ymwybyddiaeth a recriwtio cenedlaethol y Rhwydwaith Maethu, bydd Lloches Orllewinol Ynys y Barri a thwnnel Hood Road yn cael ei oleuo’n oren a gofynir i’r cyhoedd ymuno trwy osod lamp yn eu ffenestr blaen ddydd Iau, Mai 20.

 

  • Dydd Llun, 10 Mis Mai 2021

    Bro Morgannwg



Mae thema eleni, ‘#WhyWeCare’, wedi’i ysbrydoli gan artist o Gymru, Nathan Wyburn. Mae Nathan yn adnabyddus am ei ddulliau unigryw o greu celf, gan gynnwys un darn sy’n defnyddio goleuadau LED i helpu i ddangos sut gall unrhyw dŷ fod yn gartref diogel, llawn cariad.

 

Mae’r ymgyrch am ‘daflu oleuni’ ar y gwaith sy’n cael ei wneud gan ofalwyr maeth yr Awdurdod Lleol, and ar y gwaith a gyflawnir gan ofalwyr maeth awdurdodau lleol, ac i ddathlu eu hymdrechion i drawsnewid bywydau plant a phobl ifanc. Bydd adeiladau ar draws Cymru, gan gynnwys Lloches Orllewinol Ynys y Barri a thwnnel Hood Road hefyd wedi’u goleuo’n oren i gydnabod y gwaith anhygoel a gyflawnir.

Meddai’r Cyng. Ben Gray, aelod Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithsol, “Mae gofalwyr maeth yn darparu cefnogaeth, cariad a sefydlogrwydd o ddydd i ddydd i blant a phobl ifanc sy’n methu byw gyda’u teuluoedd genedigol.

 

“Er bod nifer ohonom wedi bod yn anhapus am dreulio mwyafrif o’r llynedd wedi’n caethiwo yn ein cartrefi, ar gyfer rhai pobl ifanc gallant ond breuddwydio am gael ymdeimlad o ddiogelwch, diogeledd a chysur mae cartref yn ei roi. Gall ymddangos yn rhywbeth sydd allan o’u cyrraedd i rai plant a phobl ifanc.”

Mae angen cannoedd o deuluoedd maethu newydd bob blwyddyn yng Nghymru ar gyfer plant o bob oedran, ac yn benodol grwpiau o frodyr neu/a chwiorydd, plant hŷn a phobl ifanc a phlant ag anghenion ychwanegol, a phlant ar eu pennau eu hunain sy’n ceisio lloches.

 

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn rhannu cynnwys ar draws ei sianeli cyfryngau cymdeithasol trwy gydol Pythefnos Gofal Maethu i helpu mwy o bobl i ddeall a gwerthfawrogi maethu a’r gwahaniaeth cadarnhaol y gall ei wneud i fywydau pobl ifanc.

 

Os credwch y gallwch wneud gwahaniaeth trwy fod yn ofalwr maeth yn y Fro, ewch i:

 

https://forms.valeofglamorgan.gov.uk/en/FosteringInterest