Cost of Living Support Icon

 

Llyfrgell Penarth yn ailagor ar ol cael ei hadnewyddu

Mae Llyfrgell Penarth wedi ailagor ar sail reoledig yn dilyn gwaith adnewyddu helaeth.

 

  • Dydd Iau, 06 Mis Mai 2021

    Bro Morgannwg

    Penarth



Wedi'i ariannu ar y cyd gan Gyngor Bro Morgannwg a Llywodraeth Cymru, mae'r llawr gwaelod wedi'i ailaddurno yn cynnwys dodrefn newydd, desg ymholiadau, carped a silffoedd.  


Mae goleuadau LED wedi'u gosod ym mhob rhan o'r adeilad, ac mae llawer o'i nodweddion wedi cael eu hadfywio.


Mae cyntedd newydd y fynedfa yn adlewyrchu pensaernïaeth draddodiadol y llyfrgell, tra bod y plac coffa, penddelw Samuel Thomas a’r teils gwreiddiol i gyd wedi'u hadfer.


Mae gwaith atgyweirio ychwanegol ar y to o amgylch tŵr y cloc hefyd wedi'i wneud.

 

penarthlibrary1

Fel gyda llyfrgelloedd eraill Bro Morgannwg, cyflwynwyd nifer o nodweddion diogelwch i helpu i amddiffyn ymwelwyr.


Mae sesiynau pori llyfrau 20 munud ar gael ynghyd â slotiau 50 munud ar gyfer defnyddio cyfrifiadur, ac mae'n rhaid eu harchebu ymlaen llaw drwy gysylltu â'r llyfrgell berthnasol.


Bydd cyfyngiadau amser penodol hefyd yn golygu y gall staff lanhau’r peiriannau’n iawn rhwng pob defnyddiwr.


Mae cynlluniau hefyd i symud rhywfaint o’r stoc a’r gwasanaethau i blant i Bafiliwn Pier Penarth dros dro.


Mae hyn er mwyn i'r rhaglen reolaidd o weithgareddau plant, gan gynnwys Rhigymau ac Arwyddo ac Amser Stori ddigwydd mewn lle mwy yr haf hwn.


Bydd rhagor o wybodaeth am hyn yn cael ei darparu drwy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Llyfrgell Penarth yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio: "Mae Llyfrgell Penarth wedi cael gwaith uwchraddio cynhwysfawr ac rwy’n edrych ymlaen i bobl weld y newidiadau.


"Mae llawer o'r nodweddion traddodiadol wedi'u hadfer ac mae rhai elfennau newydd wedi'u hychwanegu hefyd. 


"Mae Penarth, ynghyd â llyfrgelloedd eraill y Fro, ar agor eto i'r cyhoedd ar ôl i ystod o fesurau gael eu cyflwyno i gadw pobl yn ddiogel."

Cafodd gwasanaethau llyfrgell eu hatal i ddechrau mewn ymdrech i fynd i’r afael â’r coronafeirws cyn lansio gwasanaeth clicio a chasglu ar ddiwedd mis Mehefin.


Mae hynny'n galluogi aelodau i fenthyg llyfrau, llyfrau sain a DVDs ar sail apwyntiad a chyflwyno ceisiadau am ddewisiadau o ran awduron neu genres.


Am y tro, mae cadeiriau wedi eu symud o'r llyfrgelloedd i annog pobl i beidio ag eistedd, bydd toiledau ar gau i'r cyhoedd ac ni fydd cyfarfodydd, gweithgareddau na modd i gadw ystafelloedd. 

 

penarthlibrary02

Gofynnir i unrhyw un sy'n dod i mewn i'r adeilad ddefnyddio diheintydd dwylo a chwblhau cerdyn tracio ac olrhain gan roi ei enw a'i fanylion cyswllt.


Bydd staff y llyfrgelloedd yn gweithio y tu ôl i sgriniau amddiffynnol pan fyddant wrth ddesg ac yn gwisgo masgiau ar adegau eraill a bydd yr holl lyfrau mewn cwarantin am 72 awr cyn cael eu glanhau a'u rhoi yn ôl ar y silffoedd.


Yr amseroedd agor presennol yn ystod yr wythnos yn llyfrgelloedd Penarth, y Barri, Llanilltud Fawr a'r Bont-faen yw 10am i 1pm a rhwng 2pm a 5pm.


Mae'r Llyfrgelloedd hefyd ar agor rhwng 10am ac 1pm a 2pm i 4pm ar ddydd Sadwrn.