Cost of Living Support Icon

 

Dyn o Benarth yn cael gorchymyn i ad-dalu £130,000 ar ôl gwerthu nwyddau ffug.

Mae dyn o Benarth wedi cael gorchymyn i ad-dalu £130,000 ar ôl ei ganfod yn euog o werthu cynnyrch cosmetig anniogel, nwyddau ffug a gemwaith a oedd yn torri gofynion dilysnodi.

 

  • Dydd Iau, 06 Mis Mai 2021

    Bro Morgannwg

    Penarth



Cafwyd Sean Payter yn euog yn 2019 yn dilyn ymchwiliad Safonau Masnach i Gyngor Bro Morgannwg a heddiw wynebodd Wrandawiad Enillion Troseddau. 


Yno fe benderfynodd y barnwr fod yn rhaid iddo ad-dalu swm sylweddol a ddeilliodd o'i weithgarwch anghyfreithlon.


Dechreuodd y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) sy’n gwneud gwaith ledled ardaloedd Awdurdodau Lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a’r Fro, ymchwilio i Sean Payter ar ôl derbyn cwyn gan y Swyddfa Brofi, sef y corff sy’n gyfrifol am brofi a dilysnodi metelau gwerthfawr. 

 

Pic1

Roedd y Swyddfa Brofi wedi cynnal prawf pryniant ar gem2gems, cwmni a weithredir gan Payter a Stefan Hodgson o Gasnewydd, a oedd yn gwerthu gemwaith ar eBay.


Datgelodd nad oedd eitem wedi ei wneud o arian fel y’i disgrifiwyd ac nid oedd yn cynnwys y gemau a oedd yn y disgrifiad chwaith.


Bu i brofion pellach gan y GRhR ddatgelu bod eitemau gemwaith eraill wedi’u disgrifio’n anghywir a bod cynnyrch cosmetig a oedd ar werth yn anniogel ac o bosibl yn torri rheolau nodau masnach.


Ar ôl gweithredu ar warant ar gartref Payter, atafaelodd swyddogion y GRhR emwaith, cynnyrch cosmetig a £12,845 mewn arian parod.


Datgelodd yr ymchwiliad bod Payter a Hodgson wedi bod yn masnachu ers pum mlynedd ac wedi bod yn rhedeg gwefan o’r enw gems2gems.co.uk ar un adeg.


Roeddent wedi bod yn prynu eitemau megis mwclis, breichledi a chlustdlysau o wefan Tsieineaidd heb ddilysu eu bod nhw’n unol â’u disgrifiadau.


Canfuwyd cyfflincs a gwregysau ffug ynghyd â chynnyrch cosmetig nad oedd yn ddiogel i’w ddefnyddio.


Plediodd Payter o St Davids Crescent ym Mhenarth a Hodgson, o Park Drive, Casnewydd ill dau yn euog i gyfanswm o 12 o droseddau; dau o dan Amddiffyn Defnyddwyr rhag Rheoliadau Masnachu Annheg, chwech o dan y Ddeddf Ddilysnodi, dau o dan Reoliadau Gorfodaeth Cynnyrch Cosmetig a dau o dan y Ddeddf Nodau Masnach.


Cawsant ddedfryd o 20 mis yn y carchar, wedi’i leihau i 14 mis ar ôl pledio’n euog yn fuan yn y broses a hwnnw wedi ei ohirio am 18 mis. Bu'n rhaid i'r pâr hefyd dalu gordal dioddefwr o £140 yr un. 


Pic2

Dywedodd y Cynghorydd Edward Williams, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Rheoliadol a Chynllunio, yng Nghyngor Bro Morgannwg: “Roedd hyn yn gynllun cywilyddus a oedd yn cymryd arian gan y cyhoedd am eitemau ffug.


“Mae gwaith gwych gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi arwain at yr erlyniad, sy’n sicrhau na fydd rhagor o bobl yn dioddef dan law’r cwmni.


"Rwy'n croesawu'r swm sylweddol y gorchmynnwyd Mr Payter i’w ad-dalu, sy'n adlewyrchu faint o arian a wnaeth o'r busnes.


“Dylai’r achos hwn fod yn rhybudd i bobl eraill sy’n gweithredu mewn modd anghyfreithlon yn ein cymuned. Bydd y Cyngor yn rhagweithiol wrth amddiffyn ein preswylwyr ac yn oedi dim wrth gymryd camau gweithredu os yn darganfod nad yw pobl yn gweithredu o fewn y gyfraith.”