Cost of Living Support Icon

 

Cyrtiau tennis Parc Romilly i gael eu huwchraddio

Bydd y cyrtiau tennis ym Mharc Romilly yn cael eu gwella'n sylweddol mewn prosiect ar y cyd rhwng Cyngor Bro Morgannwg, Tennis Cymru a Chwaraeon Cymru.

 

  • Dydd Llun, 24 Mis Mai 2021

    Bro Morgannwg

    Barri



Bydd y cyrtiau’n cael eu trawsnewid yn sgil y gwaith, gydag arwynebau modern iawn yn cael eu gosod a system archebu newydd i sicrhau nad oes rhaid i neb aros am gêm neu fod mewn perygl o fethu chwarae.


Mae'r gwaith adnewyddu hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod cyfleusterau tennis yn parhau i fod yn nodwedd o Barc Romilly a'r gobaith yw y bydd y gwaith yn annog mwy o bobl i'w defnyddio.

Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu'r cyfleusterau gorau posibl i'w breswylwyr fwynhau ffordd actif ac iach o fyw.   


"Mae Tennis Cymru a Chwaraeon Cymru, sy'n bartneriaid allweddol yn y cynllun i adnewyddu'r cyrtiau ym Mharc Romilly yn rhannu'r amcan hwn.


"Mae'r prosiect wedi ymrwymo'n gadarn i gynyddu nifer y bobl sy'n chwarae tenis yn rheolaidd yn y lleoliad poblogaidd hwn." 

Mae'r Cyngor bob amser wedi gosod tâl am ddefnyddio ei gyrtiau tennis ond nid yw wedi casglu ffioedd ers nifer o flynyddoedd gan nad yw wedi bod yn economaidd gwneud hynny.  


Mae defnyddio system archebu cyrtiau ClubSpark Tennis Cymru yn goresgyn hyn ac yn rhoi gwybod i gwsmeriaid am argaeledd y cyrtiau.


Bydd y cyrtiau’n gweithredu ar sail ddi-elw, gyda’r arian yn cael ei ail-fuddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw a defnyddir unrhyw arian dros ben i ariannu gweithgarwch tennis ym Mharc Romilly a'r Fro ehangach.  


Byddant ar gael i unrhyw un eu harchebu o fewn oriau agor y parc a cheir mynediad iddynt drwy giât diogelwch a fydd yn helpu i atal fandaliaeth. 


Ni fydd unrhyw aelodaeth na system flaenoriaeth ar waith, ond mae gan ddefnyddwyr rheolaidd y dewis o  ddod yn danysgrifwyr, sy'n cynnig cyfradd ratach iddynt hwy a'u teulu.


Drwy gydol y flwyddyn, bydd cyfleoedd rheolaidd hefyd i chwarae tennis am ddim ac mae Tennis Cymru yn bwriadu cynnal gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned i annog mwy o bobl i gymryd rhan yn y gamp. 


Bydd rhaglen hyfforddi helaeth hefyd yn gweithredu o'r cyrtiau, a fydd yn dod yn gartref hirdymor i Glwb Tennis Cymunedol y Barri, gan gynnig cyfleoedd rheolaidd i bobl chwarae a chymdeithasu.


Dywedodd Jamie Clewer, Pennaeth Cyfranogiad Tennis Cymru:  "Mae diogelu a buddsoddi mewn safleoedd mewn parciau ledled Cymru yn rhan allweddol o'n strategaeth ‘Hwyluso Tennis’ i sicrhau bod cyrtiau mewn parciau yn parhau ar agor ac yn ddiogel yn y tymor hir fel cyfle i bobl chwarae'r gamp yn lleol. Mae cyrtiau mewn parciau yn lleoliad hollbwysig lle mae llawer o bobl yn chwarae'r gamp am y tro cyntaf neu'n chwarae'n gymdeithasol gyda ffrindiau a theulu.


"Mae Parc Romilly yn lleoliad poblogaidd yn y Barri ac rydym am sicrhau bod tennis yn parhau i fod yn rhan allweddol o atyniad y parciau i bobl leol. Rydyn ni'n mynd i weithio gyda'r gymuned leol i ddarparu hyfforddiant am ddim i athrawon ac offer tennis i ysgolion lleol, cynnig rhaglenni hyfforddi cymunedol i oedolion a phlant er mwyn ymgysylltu â mwy o chwaraewyr a sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn cael cyfle i roi cynnig ar dennis a'i weld fel y gamp iddyn nhw."