Cost of Living Support Icon

 

Cais Cynnig Gofal Plant y Fro ar agor o Ddydd Gwener 04 Mehefin

Gwahoddir rhieni sy'n gweithio ac sydd â phlant a fydd yn dair oed cyn 31 Awst 2021 wneud cais am gynnig gofal plant 30 awr Llywodraeth Cymru.

 

  • Dydd Mawrth, 25 Mis Mai 2021

    Bro Morgannwg



Ym Mro Morgannwg, gall y Cynnig Gofal Plant ariannu hyd at 17.5 awr yr wythnos o ofal plant yn ystod tymor yr ysgol.   Yn ystod gwyliau’r ysgol, mae’r ddarpariaeth yn cynyddu i 30 awr o ofal plant a ariennir yr wythnos, sef tair wythnos fesul tymor.

 

Bydd yr ariannu’n cychwyn ar ddechrau’r tymor ym mis Medi 2021. Mae ar gael o'r tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn dair oed nes bod y plentyn yn dechrau'r ysgol llawn-amser.

 

Gall rhieni ddefnyddio'r arian mewn unrhyw leoliad gofal plant cofrestredig sydd wedi cofrestru â’r Cynnig Gofal Plant, er enghraifft, mewn meithrinfa ddydd, gyda gwarchodwr plant neu gyda chylch chwarae.

 

Rhaid i rieni fod yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig ac yn byw'n barhaol ym Mro Morgannwg. Os yw hyn mewn teulu dau riant, yna rhaid i’r ddau riant fod yn gweithio, neu’r rhiant sengl mewn teulu un rhiant. Rhaid i rieni ennill o leiaf:

 

  • £142.56 yr wythnos os ydych yn 23 oed neu'n hŷn
  • £133.76 yr wythnos os ydych yn 21-22 oed neu'n hŷn
  • £104.96 yr wythnos os ydych yn 18-20 oed neu'n hŷn

Dywedodd y Cynghorydd. Ben Gray, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Mae wedi bod yn gyfnod arbennig o heriol i rieni, gan addasu i ddysgu gartref a chydbwyso gofal plant wrth weithio gartref.

 

"Mae'r ddarpariaeth eisoes wedi helpu rhieni a gwarcheidwaid o bob rhan o Gymru i ddychwelyd i'r gwaith, i gynyddu eu horiau neu i weithio'n fwy hyblyg. Mae eraill yn manteisio ar gyfleoedd prentisiaeth i ddatblygu eu sgiliau, i newid eu swyddi neu hyd yn oed i ddechrau eu busnesau eu hunain."

 

"Byddem yn annog pawb sy'n gymwys i wneud cais a gwneud y gorau o'r cymorth sydd ar gael."

Mae ceisiadau am y Cynnig Gofal Plant ar gyfer plant a anwyd rhwng 01 Ebrill 2018 a 31 Awst 2018 yn gallu cael eu cyflwyno o 04 Mehefin 2021.

 

Bydd pob cais a gyflwynir gyda’r dystiolaeth gywir erbyn 02 Gorffennaf 2021 yn cael ymateb cyn 19 Gorffennaf, a bydd yr ariannu’n cychwyn ar ddechrau tymor yr hydref.

 

Bydd angen mwy o amser i brosesu ceisiadau anghyflawn sy’n dod i law rhwng 04 Mehefin 2021 a 02 Gorffennaf 2021.

Bydd modd gwneud cais o hyd ar ôl 02 Gorffennaf 2021, ond ni ellir sicrhau y bydd yr arian ar gael erbyn dechrau tymor yr hydref ac ni fydd modd ei ôl-ddyddio.

 

Mae ceisiadau ar gyfer plant a anwyd cyn 01 Ebrill 2018 yn parhau ar agor. 

 

Mae manylion llawn am feini prawf cymhwysedd ac enillion ar gael ar wefan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd:

 

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd