Cost of Living Support Icon

 

Tîm NERS y Fro yn cyfarfod am ei daith gerdded ddi-rithwir gyntaf!

Gyda chyfyngiadau'r cyfnod clo yn cael eu llacio, cyfarfu tîm NERS Cyngor Bro Morgannwg am ei daith gerdded ddi-rithwir gyntaf, yn dilyn llwyddiant llu o heriau cerdded rhithwir.

 

  • Dydd Gwener, 21 Mis Mai 2021

    Bro Morgannwg



Dechreuodd y tîm yr heriau cerdded gyda thaith gerdded rithwir Mur Mawr Tsieina, a gynhaliwyd rhwng mis Hydref a mis Ionawr. Ers hynny, mae cyfranogwyr wedi cwblhau Llwybr Arfordir Cymru, Arfordir y Dwyrain i'r Gorllewin yn Awstralia a Llwybr 66. 


Maent bellach yn cerdded Camlesi Cymru go iawn ar daith gerdded awyr agored wrth gadw pellter cymdeithasol.
Mae'r heriau rhithwir wedi annog cyfranogwyr i fynd allan o'r tŷ a gwneud y gorau o'u hardaloedd lleol yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae'r cyfranogwyr wedi adrodd eu cyfrif camau wythnosol i'r grŵp, gan gynyddu eu hymdeimlad o atebolrwydd, cymhelliant a chyfeillgarwch.

Dywedodd y cyfranogwyr Sue ac Andrew Sutherland, "Diolch yn fawr am drefnu'r daith gerdded y bore yma o amgylch Cosmeston. Roedd mor hyfryd gweld pobl ar ôl cyhyd (a chwrdd â phobl nad oedden ni'n eu hadnabod sy'n aelodau rheolaidd o’r dosbarth o ddyddiau eraill). Roedd y cyfan yn teimlo mor ddiogel ac yn dod â gwên i'n hwynebau.  


"Rwy’n gwerthfawrogi'n fawr sut rydych wedi ein hysgogi yn ystod y cyfnod anodd hwn ac yn gyffredinol wedi cadw mewn cysylltiad â ni i gyd.  Rwy’n edrych ymlaen at allu cyrraedd y "normal newydd", sy'n teimlo efallai na fydd yn rhy hir nawr."


Mynegodd cleientiaid Mavis ac Aubrey Slaughter eu diolch am ymdrechion y tîm, "Llwyddiant ysgubol. Roedd yn teimlo fel bod pethau'n dychwelyd i rywbeth sy’n debyg i’r arfer. 


"Roedd hefyd yn braf cwrdd â'r tîm a'r holl gerddwyr eraill sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y teithiau cerdded amrywiol a gynhaliwyd yn ystod y cyfyngiadau symud. Rydym wedi cael dechrau da i'r wythnos ac wedi cofnodi dros 10,000 o gamau yn barod - sy'n record newydd i ni."


Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant, "Mae NERS wedi bod yn wych trwy gydol y cyfyngiadau symud, gan addasu i ofynion ymgysylltu â chleientiaid o bell. Yr heriau cerdded hyn yw'r cyntaf o'u math i'r gwasanaeth ac mae'n siŵr y byddant yn parhau ymhell ar ôl i gyfyngiadau Covid gael eu codi.

 

"Mae'r heriau, boed yn rhithwir a nawr yn ffisegol, wedi rhoi rhywbeth i ddefnyddwyr gwasanaeth ganolbwyntio arno a gweithio tuag ato. I lawer, mae wedi bod yn rheswm dros adael y tŷ ac mae wedi bod yn gymorth enfawr i les meddyliol a chorfforol."